Ymateb y Gymdeithas i doriadau i arian ymchwil a gefnogir gan Cymorth Datblygu Swyddogol (ODA) ac ansicrwydd ynghylch cymdeithas Horizon
Mae’r Gymdeithas wedi’i siomi gan y toriadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU i’r gyllideb Ymchwil a Datblygu a ariennir gan y CDU, a’r ansicrwydd parhaus ynghylch ariannu cymdeithas Horizon Europe.
Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Llywydd y Gymdeithas:
Rydym yn pryderu y bydd y diffyg cyllid yn achosi i brosiectau gael eu gohirio a niweidio partneriaethau ymchwil rhyngwladol pwysig sy’n gweithio i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a heriau byd-eang eraill.
Mae ymchwil yn hanfodol i ddatblygu’r atebion rydyn ni eu hangen i fynd i’r afael â’n heriau mwyaf, ac mae angen i lywodraeth y DU barhau i gefnogi a datblygu gallu ymchwil ledled y byd.
Mae’r Adolygiad Integredig o Amddiffyn a Pholisi Tramor yn cyflwyno gweledigaeth ar gyfer cydweithredu newydd rhwng y DU a’r UE, ond hyd yma nid oes unrhyw arian ychwanegol wedi’i ddarparu gan y Trysorlys i gefnogi cysylltiad â cham nesaf rhaglen Horizon Europe.
Mae pryder y gellid cymryd yr arian hwn o’r gyllideb wyddoniaeth bresennol, a fyddai’n cael effaith andwyol ar weithgarwch ymchwil ac arloesi’r DU ac yn niweidio’r ymdrechion i wella cyllid ymchwil ledled y DU.