Y grefft o oruchwylio: ystyried lles myfyrwyr, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Mae ein tîm datblygu ymchwilwyr yn cefnogi Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (WGSSS) i gynnal gweithdy ar-lein (16 Gorffennaf 2024) ar oruchwylio ymchwilwyr PhD.

Mae’r gweithdy wedi’i anelu at oruchwylwyr PhD ac ymchwilwyr gyrfa cynnar sy’n ymwneud â goruchwylio myfyrwyr Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru. Bydd yn cynnwys sesiynau ar les myfyrwyr a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Ymhlith y cyflwynwyr fydd yr Athro Ruth Northway FLSW, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac Athro Emeritws Nyrsio Anabledd Dysgu ym Mhrifysgol De Cymru. Bydd yn trafod pwysigrwydd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant [EDI] mewn perthynas â goruchwylio a mentora ymchwilwyr ôl-raddedig. Mae hyn yn cynnwys cynyddu eu hymwybyddiaeth o anableddau dysgu, strategaethau i osgoi rhagfarn anymwybodol, a sut i sicrhau bod prosiect ac ymchwil eich myfyriwr yn ystyried cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Rydym yn falch iawn hefyd o gael cwmni Lilian Yuet Ling Martin, sy’n Arweinydd  Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant.

Dywedodd Dr Barbara Ibinarriaga Soltero, Rheolwr Datblygu Ymchwilwyr yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru: “Rydym yn falch o fod yn cydweithio gydag Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru ar y gweithdy hwn.

“Bydd yn cyflwyno rhywfaint o sgiliau hanfodol i aelodau’r Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar, y mae goruchwylio myfyrwyr PhD yn debygol o fod yn agwedd allweddol ar eu gyrfaoedd.

“Rydym yn gobeithio mai dyma’r cyntaf o lawer o gyfleoedd i ni gydweithio gydag Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru yn yr hyn rydyn ni’n gobeithio y gallai fod yn bartneriaeth gynhyrchiol.” Cliciwch yma i weld manylion llawn y gweithdy a sut i gadw lle am ddim.