Llunio Dyfodol Cymru: Ol Troed Byd-eang Cymru ac Ymgynghoriad ar Gerrig Milltir Cenedlaethol
Yr hydref diwethaf, gwahoddwyd y Gymdeithas i roi sylwadau ar gyfres o ddangosyddion cenedlaethol arfaethedig a cherrig milltir ‘i fesur cynnydd ein cenedl’.
Esboniodd Llywodraeth Cymru’r egwyddorion y tu ôl i’r arolwg fel a ganlyn:
I’n helpu i ddeall dyfodol Cymru, mae gennym eisoes ddangosyddion llesiant cenedlaethol, a byddwn yn gosod cerrig milltir cenedlaethol i ddarparu dull o fonitro cynnydd cenedlaethol tuag at y saith nod llesiant. Yn ogystal, bydd Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol yn nodi’r tueddiadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol allweddol a allai effeithio ar Gymru yn y dyfodol, yn ogystal â rhai o’r ffactorau a allai ddylanwadu ar y tueddiadau hynny.
Llunio Dyfodol Cymru: Defnyddio Dangosyddion a Cherrig Milltir Cenedlaethol i fesur cynnydd ein Cenedl (llyw.cymru)
Gallwch weld ein hymateb i’r arolwg yma.
Fe wnaethom gefnogi argymhelliad Llywodraeth Cymru i ailenwi’r mesur ecolegol yn ‘Ôl Troed Byd-eang’ (yn hytrach nag Ôl Troed Ecolegol) fel disgrifiad mwy cywir o batrymau defnydd ar ei holl ffurfiau. Mae’n caniatáu dehongliad ehangach, sy’n cynnwys ystyriaethau Iechyd Cyfunol, ac mae’n canolbwyntio ar ddefnyddio adnoddau’n gyfrifol.
Fe wnaethom argymell hefyd, y dylid rhoi mwy o ystyriaeth i rôl amaethyddiaeth gynaliadwy, ac y dylai Cymru fabwysiadu’r targed allyriadau nwyon tŷ gwydr Sero-Net presennol fel carreg filltir genedlaethol. Fe wnaethom ddweud y dylid rhoi ystyriaeth ofalus i ganlyniadau anfwriadol rhai polisïau sero-net, fel coedwigo i wrthbwyso carbon ar gymunedau gwledig y bröydd Cymraeg.