Samuel Brown yn ennill Gwobr Poster WISERD 2017 dan nawdd Cymdeithas Ddysgedig Cymru
Mae’n bleser gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru gyhoeddi mai Samuel Brown o Brifysgol Abertawe yw enillydd Gwobr Poster Cynhadledd Flynyddol WISERD 2017. Mae’n derbyn gwobr o £200 gan y Gymdeithas Ddysgedig.
Beirniaid y wobr oedd Cymrodyr y Gymdeithas Ddysgedig yr Athro David Blackaby, athro economeg ym Mhrifysgol Abertawe, yr Athro Michael Woods, athro Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Aberystwyth ac enillydd Medal Hugh Owen yr Athro Chris Taylor o Brifysgol Caerdydd. Roedd yr arddangosfa o bosteri’n rhedeg drwy gydol y gynhadledd ac roedd yn agored i gynrychiolwyr ei gweld.
Mae Samuel ar drydedd flwyddyn ei PhD yn edrych ar effaith digwyddiadau bywyd mawr ar foddhad yr oedolyn. Mae’n astudio’r effaith mae gwahanol gontractau cyflogaeth yn ei gael ar lesiant yn y DU ac yn gwerthuso a yw gwahanol lefelau o gydlynu cymdeithasol a chymdeithas sifil yn dylanwadu ar yr effeithiau hyn.
Dywedodd Samuel Brown: “Roedd llawer o bosteri gwych yng nghynhadledd WISERD eleni, ac mae’r ffaith fod fy mhoster i wedi’i ddewis yn llawenydd mawr. Roedd yn wych sylweddoli bod fy ymchwil o ddiddordeb i gynulleidfa mor uchel ei pharch ac rwy’n falch fy mod wedi cael y cyfle i rannu fy ymchwil gyda nhw. Bydd y dystysgrif yn fy atgoffa o berthnasedd fy ymchwil a gobeithio y bydd yn fy annog i wthio ymlaen pan fydd pethau’n anodd.”
Dywedodd yr Athro Chris Taylor: “Denodd gwobr poster WISERD eleni gystadleuwyr cryf o brifysgolion ar draws Cymru, ond roedd poster Samuel yn dangos tair nodwedd bwysig poster llwyddiannus – cryno, gweladwy a hygyrch. Roedd ei boster yn cyflwyno canlyniadau ar un agwedd o’i waith yn unig – ysgariad – gan ddefnyddio ffordd effeithiol iawn i gyfleu’r canlyniadau hyn mewn modd gweledol a hygyrch.”
Cynhadledd Flynyddol WISERD yw cynhadledd gwyddorau cymdeithasol fwyaf Cymru a denwyd academyddion o amrywiaeth eang o ddisgyblaethau i ymuno â chydweithwyr eraill â diddordeb yn y gwyddorau cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor ar 5 a 6 Gorffennaf.
Thema cynhadledd eleni oedd ‘Degawd Aflonyddwch’ a chynhaliwyd sesiynau ar bynciau’n amrywio o gymdogaethau a chyfranogi, ac addysg a’r sffêr sifil, i aflonyddu gwleidyddol, a mudo, crefydd a lles.