Yr Athro Hywel Thomas: Llywydd Newydd i’r Gymdeithas
Yn dilyn pleidlais ymhlith y Cymrodyr, cadarnhawyd mai’r Athro Hywel Thomas CBE FREng FRS FLSW MAE yw Llywydd nesaf Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Ar 20 Mai bydd yn olynu Syr Emyr Jones Parry, sydd wedi arwain y Gymdeithas drwy gyfnod o dwf a chyflawniad sylweddol er 2014.
Daw’r Athro Thomas â chyfoeth o brofiad mewn addysg uwch, ymchwil ac arloesi i’r rôl. Mae’n Athro Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Caerdydd, a hefyd yn Gyfarwyddwr sylfaen y Ganolfan Ymchwil Geoamgylcheddol yn y Brifysgol ac yn Athro UNESCO ar gyfer Datblygu Geoamgylchedd Cynaliadwy. Mae’n Athro Ymchwil Nodedig ym Mhrifysgol Abertawe. Ef hefyd yw arweinydd FLEXIS, prosiect £24 miliwn ar gyfer ymchwil systemau ynni yng Nghymru.
Mae’n Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS), Cymrawd yr Academi Peirianneg Frenhinol (FREng), ac yn Aelod o Academia Europaea, Academi Ewrop. Yn 2017 derbyniodd CBE am wasanaethau i ymchwil academaidd ac addysg uwch.
Dywedodd yr Athro Thomas: “Rwyf i wrth fy modd yn cael fy ethol yn Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, sy’n chwarae rhan mor hanfodol yn dathlu a rhannu rhagoriaeth academaidd. Edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda’n Cymrodyr a’n staff i hyrwyddo ymchwil ac ysbrydoli dysg.
“Rwyf i hefyd yn ddiolchgar i Syr Emyr, sydd wedi chwarae rhan ryfeddol o bwysig yn datblygu gwaith y Gymdeithas dros y chwe blynedd ddiwethaf.”
Dywedodd Syr Emyr Jones Parry: “Mae ethol Hywel yn newyddion rhagorol ac yn gydnabyddiaeth deilwng i’w nodweddion niferus. Bydd ei brofiad yn hynod werthfawr wrth arwain y Gymdeithas Ddysgedig i lwyddiannau pellach.”