Ymateb yr RSE ac LSW i Adolygiad Stern o’r REF
28 Mawrth, 2016
Mae academïau cenedlaethol yr Alban a Chymru, Cymdeithas Frenhinol Caeredin (RSE) a Chymdeithas Ddysgedig Cymru (LSW) wedi croesawu’r cyfle i gyflwyno tystiolaeth i adolygiad yr Arglwydd Stern o’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF).
Paratowyd eu hymateb gan ddefnyddio arbenigedd Gweithgor o Gymrodyr oedd yn cynrychioli’r RSE a’r LSW, o ystod eang o sefydliadau a chefndiroedd amrywiol. Mae’r ddwy academi’n rhychwantu’r ystod lawn o ddisgyblaethau y mae’r REF yn ei chwmpasu.
Mae’r Papur Cyngor wedi’i gymeradwyo gan Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas Frenhinol Caeredin a Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.