Ymgysylltu Dinesig ar gyfer Arloesi Cynhwysol yng Nghymru
30 Ebrill, 2024
![Ymgysylltu Dinesig ar gyfer Arloesi Cynhwysol yng Nghymru](https://www.cymdeithasddysgedig.cymru/wp-content/uploads/2024/04/Copy-of-Publications-Website-Cover-Image-2.png)
Cynhaliodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru fwrdd crwn o arbenigwyr i fyfyrio ar bwysigrwydd ymgysylltu dinesig wrth ysgogi arloesi cynhwysol. Ein hamcan wrth gynnal y bwrdd crwn oedd darganfod sut mae prifysgolion a sefydliadau amrywiol yng Nghymru a thu hwnt yn ffurfio cysyniadau o’r broses ymgysylltu dinesig a’u hymdriniaeth â’r broses honno.