Effeithiau Ymchwil gan Brifysgolion Cymru: Crynodeb Gweithredol
Comisiynwyd yr astudiaeth hon gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru i ddeall, hyrwyddo a chyfleu’r cyfraniad y mae Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru (SAUau) yn ei wneud i’r gymdeithas ehangach yn well. Wrth wneud hynny, mae’n cymryd pob un o’r 280 o astudiaethau achos effaith sydd ar gael yn gyhoeddus (AAEau) a gyflwynwyd gan SAUau yng Nghymru I Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 (REF 2021) a – thrwy ddulliau meintiol ac ansoddol cyflenwol – yn archwilio natur yr effeithiau a gynhyrchir, y prosesau sy’n cefnogi hyn, a’r grwpiau o bobl sy’n elwa. Mae’r astudiaethau achos yn cyflwyno darlun cymhellol ac ysbrydoledig o’r cyfraniadau sydd yn cael eu gwneud gan SAUau yng Nghymru y tu hwnt i’r byd academaidd a ffiniau Cymru.