Effeithiau ymchwil prifysgolion Cymru
9 Tachwedd, 2023
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi datgelu adroddiad arloesol sy’n rhoi cipolwg ar yr ymchwil sy’n cael ei wneud ym mhrifysgolion Cymru a’r effaith gadarnhaol y mae’n ei chael ar bobl.
Comisiynodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru King’s College London i gynhyrchu ‘Effeithiau ymchwil prifysgolion Cymru’, sef dadansoddiad o 280 o astudiaethau achos effeithiaua gyflwynwyd i’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn 2021. Mae’r dadansoddiad hwn yn taflu goleuni ar y ffyrdd niferus mae ymchwil prifysgolion Cymru yn cyfoethogi cymunedau lleol ac yn gwneud gwahaniaeth ar draws y byd.