Archwiliad Dwfn o Genedl Fach: Yr Alban
4 Mehefin, 2024
![Archwiliad Dwfn o Genedl Fach: Yr Alban](https://www.cymdeithasddysgedig.cymru/wp-content/uploads/2024/06/Copy-of-Publications-Website-Cover-Image-4.png)
Cynhaliodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru fwrdd crwn o arbenigwyr i fyfyrio ar bolisi ac arfer arloesi yn yr Alban. Ein hamcan wrth gynnal y bwrdd crwn oedd deall sut mae’r Alban yn mynd ati i ysgogi arloesedd a chymhwyso’r hyn a ddysgir i’r cyd-destun Cymreig. Roedd y bwrdd crwn hwn yn cynnwys siaradwyr o Brifysgol Glasgow, Interface, a Chymdeithas Frenhinol Caeredin (RSE).