Ymateb i Ymgynghoriad Cynllun Strategol Medr

Download Publication

Chwalu’r rhwystrau i yrfaoedd mewn ymchwil, canolbwynt ymchwil ac arloesedd ar gyfer economi Cymru, a phwysigrwydd cydweithio ar gyfer mynd i’r afael â newid hinsawdd, sydd ymysg y prif themâu a amlygwyd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn eu hymateb i ymgynghoriad Medr ar y cynllun strategol newydd a chyntaf.

Mae Medr, y corff newydd sy’n gyfrifol am ariannu a rheoleiddio’r sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru, wedi cynhyrchu eu cynllun strategol mewn ymateb i ddatganiad o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil ac arloesedd.

Croesawom y cyfle i roi sylwadau a chael gwrandawiad, ynghyd â sawl un arall yn y system addysg drydyddol. Mae gweithio mewn partneriaeth wrth wraidd ein gweledigaeth strategol, ac felly hefyd Medr. Rydym yn cefnogi’r ymdeimlad o gydweithrediad sydd wrth wraidd yr ymgynghoriad. Mae CDdC yn edrych ymlaen at fod yn rhan o ddarparu’r Cynllun tua’r dyfodol, trwy ein rhan unigryw yn y sector trydyddol, a thryw ein partneriaeth â Medr.

Canolbwyntiodd ein sylwadau ar y canlynol:

  • canolbwynt ymchwil ac arloesedd ar gyfer economi a chymdeithas gadarn;
  • cydweithio i chwalu rhwystrau rhag cael gyrfaoedd mewn ymchwil;
  • pwysigrwydd ffocws y Cynllun ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant;
  • sut all y sector ymchwil gefnogi’r ymrwymiadau o fewn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
  • y rôl y gall academïau cenedlaethol chwarae wrth gefnogi’r gwaith o greu polisïau yn seiliedig ar dystiolaeth;
  • y gwerth o gefnogi’r diwydiannau celfyddydol, y dyniaethau a’r rhai creadigol i greu cymdeithas ffyniannus