Adolygiad Blynyddol 2019-20
8 Ionawr, 2021
“Rydw i’n falch o arwain Cymrodoriaeth o fwy na 550 o unigolion eithriadol, pob un gyda chysylltiad cryf â Chymru, sy’n cynrychioli rhagoriaeth mewn meysydd niferus. Gyda Chymru a’r byd wedi newid yn sgil y coronafeirws, mae angen eu harbenigedd yn fwy nag erioed arnom. Ni ddylid tanbrisio’r heriau y mae’r pandemig yn eu cyflwyno i addysg uwch ac ymchwil, yn ogystal ag i Gymdeithas ehangach. Serch hynny, mae yna gyfleoedd i ailgrwpio, ail-ddychmygu a defnyddio doniau Cymru gyfan i ‘ailadeiladu’n well’. Mae’r ysbryd hwn o gydweithredu’n hanfodol i’r Gymdeithas.”
Yr Athro Hywel Thomas, Croeso’r Llywydd