Newyddion

The latest news from the Learned Society of Wales

Ceisio mwy o gynrychiolaeth o Gymru ar Academi Ifanc y DU

Mae ymchwilwyr o Gymru yn cael eu hannog i wneud cais i ymuno ag Academi Ifanc y DU. Mae rownd y ceisiadau eleni yn cynnwys menter i gefnogi academyddion sydd mewn perygl hefyd. Sefydlwyd Academi Ifanc y DU yn 2022 ac mae'n gweithredu o dan nawdd y Gymdeithas Frenhinol. Mae'n rhwydwaith rhyngddisgyblaethol o ymchwi... Read More

Yr Athro Raluca Radulescu FLSW yn arwain y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol

Mae ein FLSW, aelod o'r Pwyllgor Dibenion Cyffredinol a chynrychiolydd Prifysgol Bangor, yr Athro Raluca Radulescu, wedi cael ei hethol yn Lywydd y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol (https://ias-sia-iag.org/2024/07/23/general-assembly-of-the-society-and-next-congress/) yn y 27ain Gyngres Arthuraidd Ryngwladol a gynhali... Read More

Newid y naratif: Rhoi gwerth ar raddau yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Mae adroddiad newydd gan y Brifysgol Agored yng Nghymru, Cymdeithas Ddysgedig Cymru a History UK yn ymateb i naratif pwerus ar hyd y DU ynghylch gwerth ariannol addysg uwch, sy'n tueddu i labelu graddau'r celfyddydau a'r dyniaethau yn 'isel eu gwerth'. Mae'r adroddiad yn casglu'r canfyddiadau o gyfarfod a gynhaliwy... Read More

Llongyfarchiadau i Brif Weinidog newydd Cymru

Rydym yn llongyfarch y Farwnes Eluned Morgan ar ddod yn Brif Weinidog Cymru. Mae ei chyflawniad o ddod yn Brif Weinidog fenywaidd gyntaf Cymru yn un arwyddocaol a phwysig. Rydym wedi mwynhau perthnasoedd gwaith cadarnhaol gyda Phrif Weinidogion blaenorol ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Farwnes Morgan. Mae ei... Read More

Huw Edwards – Datganiad Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Etholwyd Huw Edwards fel Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ym mis Mai 2023. Mae pob Cymrawd sy’n cael ei ethol yn rhwym i Gôd Ymddygiad. Yng ngoleuni’r ffaith bod Huw Edwards wedi pledio’n euog, cyhoeddodd y Gymdeithas ar 31 Gorffennaf 2024 y byddai’n adolygu ei gymrodoriaeth yn dilyn ein gweithdrefnau sefyd... Read More

Newyddion y Cymrodyr: Anrhydeddau’r Academi Brydeinig a’r Eisteddfod

Llongyfarchiadau i'n Cymrodyr sydd newydd gael eu hethol yn Gymrodyr yr Academi Brydeinig: Yr Athro Norman Doe FLSW, Yr Athro Sophie Gilliat-Ray FLSW ac yr Athro Justin Lewis FLSW. Mae ein henillydd medalau, Hugh Owen 2022, yr Athro David James, hefyd yn cael ei ethol. Yn yr Eisteddfod eleni, mae’r Athro... Read More

Sut i enwebu rhywun fel Cymrawd: sesiynau ar-lein

Rydym yn cynnal cyfres newydd o sesiynau ar-lein i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dod yn Gymrawd neu mewn darganfod sut i enwebu. Cawsom adborth gwych o'r rownd gyntaf, felly cofrestrwch.  Os oes gennych chi, neu unrhyw un rydych chi'n gwybod amdano ddiddordeb i ganfod mwy ynghylch sut i ddod yn Cymrawd... Read More

Eisteddfod 2024: Sylw i Ymchwil yn y Gymraeg

Bydd y sgil o ddisgrifio ymchwil cymhleth i gyhoedd gyffredinol yn cael ei phrofi mewn cystadleuaeth 'Traethawd Tri Munud' yn yr Eisteddfod eleni ym Mhontypridd. Mae ein tîm Datblygu Ymchwilwyr wedi bod yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer aelodau Rhwydwaith YGC sy’n siarad Cymraeg i rannu a thrafod eu hymchwil yn ... Read More