Newyddion y Cymrodyr: Cyhoeddiadau a Gwobrau Llenyddol

  • Darllenwch y cyfweliad hwn gyda Syr John Meurig Thomas am ei lyfr newydd Architects of Structural Biology, sy’n adrodd hanes ymddangosiad un o’r pynciau mwyaf pwysig mewn gwyddoniaeth fodern: bioleg foleciwlaidd.
  • Mae Cyfri’n Cewri: Hanes Mawrion ein Mathemateg (UWP) gan yr Athro Gareth Ffowc Roberts yn ceisio ysbrydoli cenhedlaeth newydd o fathemategwyr, drwy edrych ar fathemategwyr Cymreig y gorffennol.
  • O.M.-Cofiant Syr Owen Morgan Edwards gan yr Athro Hazel Walford Davies, ydy bywgraffiad cyflawn cyntaf Owen Morgan Edwards, gwleidydd, ysgolhaig, llenor a chyhoeddwr cylchgronau.
  • Mae’r Athro Carol Tully yn gyd-awdur Hidden Texts, Hidden Nation, sy’n archwilio cynrychiolaeth Cymru a ‘ Chymreictod ‘ mewn testunau gan deithwyr o Ffrainc a’r Almaen, o 1780 hyd heddiw.
  • Mae Gwobr Encore Cymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol 2020, sy’n dathlu cyflawniad yr ail nofelau rhagorol, wedi cael ei dyfarnu i Patrick McGuiness am ei nofel Throw Me to the Wolves.