Newyddion y Cymrodyr: Gorffennaf 2023

Mae Dr. Cara Reed, aelod o’n Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar a’r Athro Mike Reed FLSW, o Ysgol Busnes Caerdydd, newydd gyhoeddi Enough of Experts: Expert Authority in Crisis, sy’n archwilio grym a dylanwad arbenigwyr ac sy’n dadansoddi’r heriau a’r bygythiadau i awdurdod arbenigol mewn economïau a chymdeithasau gwleidyddol neoryddfrydol.

Llongyfarchiadau i Dr. Ceridwen Lloyd-Morgan FLSWar dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, i gydnabod ei chyfraniad eithriadol i ysgolheictod yng Nghymru a Llydaw.

Mae The History of Parliament: The House of Commons, 1640-1660, a olygwyd gan Stephen Roberts FLSW, wedi cael ei gyhoeddi. Yn waith mwy na deng mlynedd ar hugain a nifer o awduron, mae’r set naw cyfrol hon yn cynnwys 1800 o fywgraffiadau o ASau, cyfrifon etholiadau ym mhob etholaeth, a manylion gwaith y pwyllgorau gweithredol a sefydlwyd gan y Senedd.

Mae’r Athro Roger Falconer FLSW wedi ennill Gwobr Cyfeillgarwch Llywodraeth Tsieina am ei gyfraniadau at yr “ymdrech i foderneiddio Tsieina”. Fel gwobr orau Tsieina ar gyfer arbenigwyr tramor, fe’i rhoddwyd fis Medi y llynedd ac fe’i casglwyd mis Mehefin yn ystod taith i Tsieina. Darllenwch adroddiad yr Athro Falconer o’i waith yn Tsieina dros y blynyddoedd.

Mae’r Athro Geraint Jewell FLSW wedi’i benodi’n Is-lywydd a Phennaeth y Grŵp Gweithgynhyrchu Uwch ym Mhrifysgol Sheffield, gan oruchwylio ei waith i gefnogi datblygiad economaidd a chymdeithasol y DU.

Mae’r Athro Dafydd Johnston FLSWwedi cael ei ethol i Gymrodoriaeth yr Academi Brydeinig, i gydnabod ei waith ar lenyddiaeth Gymraeg, barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, Dafydd ap Gwilym, trosglwyddo testun, geiriaduron a chyfieithu.