Newyddion y Cymrodyr: Mai 2023
Derbyniodd yr Athro Ann John wobr yng nghategori ‘Cyfraniad Rhagorol mewn Gwyddoniaeth, Technoleg a Gofal Iechyd’ yn seremoni gwobrwyo’r EMWWAA (Cymdeithas Cyflawniad Merched Cymreig o Leiafrifoedd Ethnig) ar 13 Mai. Derbyniodd Yr Athro Charlotte Williams Wobr Cyflawniad Oes. Nod EMWWAA yw grymuso ac ysgogi merched a genethod o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru drwy gydnabod eu cyfraniadau.
Mae’r Athro Menna Elfyn a’r Athro Zoe Skouldingwedi cyrraedd rhestr fer Llyfr Cymraeg y Flwyddyn am eu casgliadau o farddoniaeth, Tosturi (Cymraeg) ac A Marginal Sea, yn y drefn honno.
Roedd y Farwnes Ilora Finlay yn un o’r naw Cyfoed a enwyd yn y gwobrau 100 o Ferched yn San Steffan am yr ail flwyddyn yn olynol.
Mae’r Athro Andrew Hopkins FRS wedi cael ei ethol yn Gymrawd Academi’r Gwyddorau Meddygol am gyfraniadau eithriadol i wyddor fiofeddygol ac iechyd, tra bod yr Athro Trevor Jones CBE wedi derbyn DSc Anrhydedd gan Brifysgol Hellenic, Thessaloniki, Gwlad Groeg.
Mae Nuclear Secrets: Trust, Mistrust, and Ambiguity in Anglo-American Nuclear Relations Since 1939, sydd wedi’i gyd-ysgrifennu gan yr Athro John Baylis a’i gyhoeddi gan OUP, yn cael ei rannu.
Mae’r Athro Laura McAllister a Pedr ap Llwydwedi cael eu cydnabod gan yr Orsedd cyn yr Eisteddfod eleni, i gydnabod eu ‘llwyddiannau a’u hymrwymiad i Gymru, ein hiaith a’u cymunedau lleol.’
Cyhoeddwyd map hanesyddol o Abertawe, a gynhyrchwyd gan yr Athro Helen Fulton gyda’r Historic Towns Trust, y mis hwn yn Amgueddfa Abertawe. Y map yw’r cyntaf o’i fath: map o ddinas Gymreig yn gyfan gwbl Gymraeg.
Mae Rachel Podger, a benodwyd yn ddiweddar yn Brif Gyfarwyddwr Gwadd Tafelmusik, wedi ennill Gwobr Recordiad y Flwyddyn Cylchgrawn BBC Music 2023, a’r Wobr Offerynnol am ei halbwm datganiad unigol clodwiw, Tutta Sola.
Enwyd yr Athro Claire Gorrara yn Chevalier dans l’Ordre National du Mérite gan Lysgennad Ffrainc i gydnabod ei gwasanaethau i’r iaith Ffrangeg a diwylliant a hyrwyddiad amlieithrwydd yng Nghymru ac yn y DU.
Cafodd Yr Athro Meena Upadhyaya, a ddaeth yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Caerdydd ym Mis Chwefror 2023, ei gwahodd i seremoni coroni’r Brenin yn Abaty San Steffan ar ddechrau’r mis hwn.