Medalau Cymdeithas Ddysgedig Cymru 2024: Helpwch ni i ddathlu’r goreuon ym maes ymchwil yng Nghymru
Mae’r broses o chwilio am ein henillwyr ar gyfer 2024 wedi dechrau… a gallwch chwarae rhan lawn yn pwy sy’n derbyn medalau eleni.
Mae medalau yn cael eu dyfarnu ar gyfer y celfyddydau a’r dyniaethau, gwyddorau cymdeithasol, gwyddoniaeth, mathemateg a pheirianneg.
Gall enillwyr medalau fod yn gweithio mewn prifysgolion, ond gallant ddod o fyd meddygaeth, technoleg neu fusnes, hefyd – mewn gwirionedd, o unrhyw gefndir. Does dim angen i’n henillwyr medalau fod yn Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar hyn o bryd, a gallant ddod o’r sector cyhoeddus neu’r sector preifat, o ddiwydiant neu o fyd addysg.
Yr unig beth sy’n bwysig yw bod ganddynt gysylltiad â Chymru, a’u bod yn dangos sut mae ymchwil o Gymru yn ffynnu, yn arloesol ac yn cyflawni canlyniadau sydd o fudd i gymdeithas ehangach.
Allwch chi feddwl am rywun sy’n haeddu un o’n medalau, ond dim yn siŵr beth i’w wneud nesaf?
Mae’r broses yn un syml, a byddwn yn eich helpu ar bob cam o’r ffordd. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw anfon e-bost cyflym atom yn gofyn am wybodaeth bellach, ac efallai rhoi gwybod i ni pwy sydd gennych mewn golwg.
Felly, peidiwch ag aros, ond anfonwch e-bost cyflym atom ac enwebu rhywun nawr.
Rydym yn dyfarnu’r medalau canlynol:
- Medalau Dillwyn – ar gyfer Rhagoriaeth Ymchwil Gyrfa Gynnar
- Medal Frances Hoggan – ar gyfer Menywod Rhagorol mewn STEMM
- Medal Hugh Owen – ar gyfer Ymchwil Addysgol Rhagorol
- Medal Menelaus – ar gyfer Rhagoriaeth mewn Peirianneg a Thechnoleg
Mae’r broses enwebu’n cau ar 30 Mehefin 2024.