Medal Menelaus 2015
Mae’n bleser gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru gyhoeddi mai’r gwyddonydd nodedig o Gymru yr Athro Syr John Meurig Thomas FLSW Hon.FRSE Hon.FREng FRS fydd y trydydd i dderbyn Medal Menelaus y Gymdeithas.
Dyfernir y Fedal, a noddir gan Ymddiriedolaeth Addysgol Sefydliad Peirianwyr De Cymru (SWIEET2007), am “ragoriaeth mewn unrhyw faes o beirianneg a thechnoleg i academydd, ymchwilydd diwydiannol neu ymarferydd diwydiannol sy’n preswylio yng Nghymru neu a anwyd yng Nghymru ond sy’n byw yn rhywle arall, neu sydd fel arall â chysylltiad penodol â Chymru”.
Mae’r Athro Syr John Meurig Thomas FLSW Hon.FRSE Hon.FREng FRS yn un o gemegwyr blaenllaw’r byd ac yn adnabyddus am ei waith ar gatalysis. Mae’n Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol ac yn un o Gymrodyr Cychwynnol Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae Syr John yn Gymrawd Tramor Cymdeithas Athronyddol America, Academi Celfyddydau a Gwyddorau America, Academi Gwyddorau Rwsia, Academi Lincei yn Rhufain ac academïau cenedlaethol Hwngari, Gwlad Pwyl, Sbaen, Sweden, India ac Academi Peirianneg Japan. Mae wedi derbyn nifer o wobrau cenedlaethol a rhyngwladol (gan gynnwys medal Davy y Gymdeithas Frenhinol). Mae gan Syr John hefyd ddoethuriaethau er anrhydedd gan ugain o brifysgolion.
Mae’n awdur deg ar hugain o batentau a thros fil o bapurau ac erthyglau gwyddonol. Yn 1995 enwodd un o’i gyn fyfyrwyr fwyn newydd a ddarganfuwyd yn meurigite er anrhydedd iddo. Mae ganddo dros ddeugain o gymrodoriaethau er anrhydedd mewn prifysgolion a cholegau yn y DU a ledled y byd.
Ar un adeg Syr John oedd yn dal y gadair mewn cemeg a grëwyd ar gyfer Michael Faraday yn Sefydliad Brenhinol Prydain Fawr, yr oedd yn Gyfarwyddwr arno (1986-1991), yr unig Gymro i ddal y swydd hon. Bu’n Bennaeth Cemeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth (1969-1978), Pennaeth yr Adran Cemeg Ffisegol, Prifysgol Caergrawnt (1978-1996), a Meistr Peterhouse (1993-2002). Bellach mae’n Athro Er Anrhydedd yn Adran Gwyddor Deunyddiau a Meteleg Caergrawnt. Fe’u hurddwyd yn farchog yn 1991 i gydnabod ei wasanaeth i gemeg a phoblogeiddio gwyddoniaeth.
Dywedodd Llywydd y Gymdeithas, Syr Emyr Jones Parry:
“Mae’n gwbl briodol fod un o wyddonwyr blaenllaw Cymru, Syr John Meurig Thomas wedi’i ddewis i dderbyn y Fedal Menelaus eleni. Rwyf i wrth fy modd ei fod wedi derbyn ein gwahoddiad i ddod i’r seremoni gyflwyno ym Mhrifysgol Aberystwyth – lle yn y 1970au y sefydlodd grŵp blaenllaw’r byd ym maes cemeg solidau a’u harwynebau.”
Ychwanegodd Syr John Meurig Thomas:
“Rwyf i’n falch iawn i dderbyn Medal Menelaus Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Fel gwyddonydd a rhywun sy’n frwd dros hanes gwyddoniaeth a thechnoleg, mae hon yn anrhydedd fawr i mi.”
Caiff y Fedal ei chyflwyno yn ystod seremoni a gynhelir yn Sinema Canolfan y Celfyddydau, Prifysgol Aberystwyth am 11am ddydd Llun 13 Gorffennaf. Mae croeso i bawb.
Yn union ar ôl y seremoni, bydd Syr John yn traddodi darlith gyhoeddus ar hanes y lamp diogelwch a grëwyd gan Syr Humphry Davy i’r glowyr.