Ar-lein

Gweminar YGC: Rhoi Llais i’ch Ymchwil yn y Senedd

29 Ion, 2024:

10:00 am -

12:00 pm

Bydd Dr Sarah Morse, Rheolwr Cyfnewid Gwybodaeth, Gwasanaeth Ymchwil y Senedd yn cynnal gweminar ar ‘Rhoi llais i’ch ymchwil yn y Senedd’ ar 29 Ionawr (10am-12pm).

Mae’r Senedd a’i haelodau’n chwilio am dystiolaeth ymchwil i lywio prosesau craffu ar Lywodraeth Cymru a deddfu. Bydd y sesiwn hon yn esbonio sut y gallwch ymgysylltu â’r Senedd a’i haelodau, gan gynnwys:

  • Esbonio tirwedd polisi Cymru, a sut mae’r gwahanol rannau’n cydweithio;
  • Dangos i chi pam y dylech fod yn ymgysylltu â’r Senedd, gan gynnwys enghreifftiau llwyddiannus o ymgysylltu ac effaith ymgysylltu;
  • Eich helpu i drafod y ddau fyd, a deall y cyfleoedd i ymgysylltu;
  • Cynnig awgrymiadau ymarferol ar sut i wneud yn siŵr bod eich ymchwil yn cael ei glywed.

Bydd Dr Emily Marchant (Prifysgol Abertawe) a Dr Larissa Peixoto Vale Gomes (Prifysgol Caeredin) hefyd yn rhannu eu profiadau o ymgysylltu â’r Senedd fel ECRs.

Cysylltwch â’n Tîm Datblygu Ymchwilwyr os oes gennych unrhyw gwestiynau: researcherdevelopment@lsw.wales.ac.uk.