Ar-lein ac yn bersonol

Fforwm Arbenigwyr YGC: Anabledd Yng Nghymru

5 Chw, 2025:

11:00 am -

3:00 pm

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn dwyn ynghyd arbenigwyr o sectorau amrywiol i ffurfio Fforwm Arbenigol ar Anabledd yng Nghymru. Rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Wrecsam i gynnal y digwyddiad.

Bydd y Fforwm Arbenigol yn dwyn ynghyd aelodau o’n Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar gyda chynrychiolwyr o lywodraethau Cymru a’r DU, diwydiant, a’r trydydd sector. Bydd y diwrnod yn cynnwys sgyrsiau cyflym, sesiynau trafod a rhwydweithio. Cyhoeddir adroddiad cyhoeddus a thaflen ffeithiau ar ôl y cyfarfod. Mae hwn yn gyfle i ymchwilwyr greu effaith a datblygu sgiliau ymgysylltu â pholisi.

Mae bwrsariaethau ar gael i gefnogi ymchwilwyr sy’n mynychu mewn person. Mae presenoldeb ar-lein hefyd ar gael i gefnogi’r rhai na allant deithio.

Darganfyddwch fwy am y Fforwm Arbenigwyr a chyflwynwch eich mynegiant o ddiddordeb yma.

Rydym hefyd yn awyddus i glywed gan lunwyr polisi neu ymarferwyr sydd â phrofiad gyda thema’r Fforwm Arbenigol. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r digwyddiad, anfonwch e-bost atom (researcherdevelopment@lsw.wales.ac.uk) gydag amlinelliad byr o’ch arbenigedd a sut y gallwch gyfrannu.