Yn bersonol

Colocwiwm YGC 2024: Cymru Gysylltiedig

18 Meh, 2024:

9:15 am -

4:00 pm

Y thema ar gyfer y Colocwiwm eleni yw ‘Cymru Gysylltiedig’. Dewiswyd y thema hon i adlewyrchu ein hymrwymiad i ddatblygu rhwydwaith ymchwil cydlynol a rhyngddisgyblaethol yng Nghymru, ac i gysylltu ymchwil yng Nghymru â pholisi ac ymarfer.

Mae’r Colocwiwm wedi’i lunio ar y cyd gyda’n Llysgenhadon Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar a chyda chymorth ein Grŵp Cynghori ar gyfer Datblygu Ymchwilwyr. Bydd yn cynnwys sgyrsiau-fflach a phosteri ymchwil Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar rhyngddisgyblaethol. Bydd y rhain yn archwilio sut all yr ymchwil hwn lywio gwybodaeth am yr egwyddorion llesiant a nodir yn y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd gweithdai dan arweiniad Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar hefyd yn cael eu cynnal drwy gydol y bore ar effaith, ymgysylltiad a dulliau ymchwil. Bydd y prynhawn yn cynnwys trafodaeth banel dwy awr ar sut i ysgrifennu ceisiadau cystadleuol am gyllid. Caiff hon ei chynnal gan Gymrodorion y Gymdeithas a siaradwyr sy’n arbenigo mewn ceisiadau am grantiau, yn cynnwys Prif Ymchwilydd profiadol, ysgrifenwyr cynigion a chynrychiolwyr o gyrff ariannu’r DU. Bydd gwobrau’n cael eu dyfarnu i’r sgyrsiau fflach a phosteri ymchwil gorau.

Rydym yn falch iawn o gynnal ein hail Golocwiwm mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Cymorth Ymchwil ac Effaith Integredig (IRIS) ym Mhrifysgol Bangor, a obeithiwn y byddwch yn gallu mynychu diwrnod o rwydweithio a chyfnewid gwybodaeth wedi’i hwyluso gan aelodau’r Rhwydwaith YGC.

Mae rhagor o wybodaeth am ein Rhaglen Colocwiwm ar gael yma.

Cofrestru

Mae cofrestru ar gyfer y Colocwiwm yn agor ar 10/05/2024, drwy Ticket Tailor. Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael i fynychu’r Colocwiwm ac rydym yn annog unrhyw un sy’n dymuno bod yn bresennol i sicrhau eu lle cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi cael eu siomi.

Wrth archebu, fe’ch anogir i ddewis y cynigion sy’n cyfateb orau i’ch anghenion. Sylwch y bydd rhai o’r cynigion yn destun ffi, i’w dalu ar adeg archebu. Er mwyn gwneud y digwyddiad mor hygyrch â phosibl ar gyfer YGCs, mae cofrestru ar gyfer y Colocwiwm yn rhad ac am ddim. Bydd Rhwydwaith YGC LSW hefyd yn cefnogi YGCs trwy ddarparu opsiynau teithio a llety rhesymol a bydd bwrsariaethau cyfyngedig ar gael ar gais (gweler y manylion isod).

Mae’r cynigion sydd ar gael fel a ganlyn:

  • Colocwiwm, Mynediad Cyffredinol – Am Ddim
    Mae cofrestru ar gyfer y Colocwiwm yn cynnwys mynediad i sesiynau cynhadledd, cinio a lluniaeth.
  • Llety Dros Nos – £40
    Mae llety dros nos ar gyfer y noson cyn y Colocwiwm (17 Mehefin) ar gael ar y safle yn neuaddau’r brifysgol, dim ond taith gerdded fer o’r ganolfan Colocwiwm.
  • Gwasanaeth Bws o Caerdydd – £10
    Bydd y bws yn gadael am 1:00pm o Brif Gampws Prifysgol Caerdydd ddydd Llun 17 Mehefin ac yn dychwelyd o Fangor am 4.15pm unwaith y bydd y Colocwiwm wedi cau ddydd Mawrth 18 Mehefin.

Bwrseriathau Teithio a Llety

Mae gennym nifer cyfyngedig o fwrsariaethau teithio a llety ar gael ar gyfer y rhai sy’n mynychu’r Colocwiwm sy’n dod o sefydliadau yng Nghymru, felly sicrhewch eich bod yn dewis y tocyn cywir pan fyddwch yn cofrestru sy’n cyd-fynd â’ch anghenion.

Mae llety dros nos ar gyfer y noson cyn y Colocwiwm (17 Mehefin) ar gael ar y safle yn neuaddau’r brifysgol, sy’n agos iawn ar droed at y ganolfan gynadledda. Tra ein bod yn sybsideiddio’r digwyddiad, gofynnwn i chi dalu £40 tuag at y ffi archebu llety. Os na allwch dalu’r ffi hon, rhowch wybod i ni. Gweler ein ‘Polisi Canslo’ am ragor o wybodaeth.

Mae bws wedi’i drefnu’n ogystal ar gyfer y rhai sy’n teithio o dde Cymru. Bydd y bws yn gadael Prif Gampws Prifysgol Caerdydd am 1:00pm ddydd Llun 17 Mehefin ac yn dychwelyd o Fangor am 4:15pm ar ôl i’r Colocwiwm ddod i ben ddydd Mawrth 18 Mehefin. bydd angen talu £10 ar adeg cofrestru, ac nid oes modd rhoi ad-daliad am y ffi hon.

Os oes angen cyllid arnoch ar gyfer trefniadau trafnidiaeth gwahanol i fynychu’r Colocwiwm, dylech gysylltu â ni cyn cofrestru er mwyn sicrhau ein bod yn gallu talu’ch costau.

Mae nifer y lleoedd ar gyfer yr opsiynau trafnidiaeth a llety yn brin, a chânt eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.

Ffotograffiaeth

Bydd lluniau’n cael eu tynnu drwy gydol y digwyddiad. Os nad ydych yn dymuno cael eich cynnwys yn y lluniau, rhowch wybod i’r ffotograffydd neu aelod arall o staff.

Polisi Canslo

Os na allwch fynychu’r Colocwiwm bellach, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl. Gallwch dderbyn ad-daliad rhannol (£30) os ydych wedi archebu Llety ac wedi rhoi gwybod i ni am eich canslo yn ysgrifenedig/drwy e-bost cyn 10 Mehefin. Ni ellir ad-dalu ffioedd trosglwyddo bysiau.

Sylwch y gall ad-daliadau gymryd hyd at 7 diwrnod i gael eu prosesu.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at: researcherdevelopment@lsw.wales.ac.uk