Emily Shepard: Medal Dillwyn ar gyfer STEMM 2019
Dyfarnwyd medalau Dillwyn ar gyfer STEMM i Dr Rebecca Melen, Uwch-ddarlithydd a Chymrawd EPSRC ym Mhrifysgol Caerdydd a Dr Emily Shepard, Athro Cyswllt yn y Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe
Biolegydd yw Dr Shepard sydd ag enw da byd-eang am ei gwaith arloesol ar ehediad adar ac adweithiau ymddygiadol adar i amgylchedd yr awyr. Mae’n wyddonydd rhyngddisgyblaethol, sy’n cydweithio gyda pheirianwyr awyrennau, meteorolegwyr, mathemategwyr, ffisegwyr a ffisiolegwyr.
Wrth dderbyn y fedal i gydnabod ei gwaith, dywedodd Dr Shepard:
“Dechreuais weithio ar ehediad yn 2010 ac mae Prifysgol Abertawe wedi darparu cymorth hanfodol i sicrhau bod yr ymchwil hwn ar waith ac yn adeiladu momentwm. Mae wedi bod yn bleser gweithio yn y sector academaidd yng Nghymru a chael gweithio’n ymarferol gyda bywyd gwyllt ysblennydd Cymru, ac mae’n anrhydedd i mi gael cydnabyddiaeth i’r gwaith drwy’r wobr hon.”