Gwnewch gais i fod yn rhan o’n Grŵp Cynghori ar gyfer Datblygu Ymchwilwyr

Mae egwyddor pwysig mewn perthynas â’n dull o fynd ati i ddatblygu ymchwilwyr: rydym eisiau i ymchwilwyr fod wrth wraidd ein gwaith, a siapio’r cyfeiriad teithio a datblygu eu sgiliau yn y broses.

Dyna pam rydym yn gwahodd ceisiadau ar gyfer ymchwilwyr gyrfa cynnar a chanol gyrfa i ymuno â’n Grŵp Cynghori ar Ddatblygu Ymchwilwyr 2024-2027.

Rydym yn ymwybodol iawn hefyd, bod llawer o’r ymchwil sy’n cymryd rhan yng Nghymru yn digwydd y tu allan i’r byd academaidd. Felly, rydym yn annog ceisiadau gan ymchwilwyr sydd ddim yn gweithio mewn prifysgolion; bydd eu sgiliau a’u mewnwelediadau yn werthfawr. Y cyfan rydyn ni’n ei ofyn yw bod ganddynt gysylltiad â Chymru

 “Fe wnes i wirfoddoli i fod yn Gynrychiolydd Gyrfa Gynnar ar gyfer Grŵp Cynghori Datblygu Ymchwilwyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru, oherwydd fy mod i eisiau cyfrannu at sefydliad a oedd yn gweithio’n weithredol i helpu ysgolheigion ar ddechrau eu gyrfa ar draws Cymru. Yn ystod fy nghyfnod, rwyf wedi cyfarfod Cymrodyr ac Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar sy’n gweithio ar draws Cymru ac mewn ystod eang iawn o ddisgyblaethau – o’r ysgolheigion uwch yng Nghinio blynyddol y Cymrodyr yng Nghaerdydd, i ôl-raddedigion cynnar iawn ac Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar yn y colocwiwm blynyddol.”

Dr Emily Cock, Uwch Ddarlithydd mewn Hanes Modern Cynnar, Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, Prifysgol Caerdydd.

Bydd o leiaf pedwar Ymchwilydd Gyrfa Cynnar ac Ymchwilwyr Canol Gyrfa yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd ar-lein bob cwpl o fisoedd gyda Chymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu defnyddio i benderfynu ar ein rhaglen o weithgareddau ar gyfer ymchwilwyr yng Nghymru. Mae’n rôl ymarferol, a fydd yn arwain at ganlyniadau diriaethol.

Mae hwn yn gyfle i wella sgiliau arwain a chwarae rôl weithredol wrth lunio amgylchedd ymchwil mwy cynhwysol a chefnogol.

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio ydy 8 Tachwedd. Mae ceisiadau’n cael eu cyflwyno drwy ffurflen ar-lein syml.

“Roedd y cyfleoedd hyfforddi hyn ar draws disgyblaethau a’r mewnwelediadau o golocwiwm Abertawe yn uchafbwynt, gan roi mwy o brofiad a dealltwriaeth i mi o sut i ymgysylltu ac argyhoeddi cyfoedion ar draws disgyblaethau, gan gynnwys mewn ceisiadau grantiau. Mae’r trafodaethau hyn wedi rhoi cipolwg rhagorol i mi ar yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu ysgolheigion a sefydliadau ar draws Cymru. Rwyf wedi dysgu modelau arwain ac arfer da i’w defnyddio yn fy ngyrfa fy hun.”

Dr Emily Cock