Dadorchuddio Plac Porffor Frances Hoggan
28 Chwefror, 2023
![Dr. Frances Hoggan](https://www.cymdeithasddysgedig.cymru/wp-content/uploads/2023/02/Website-News-Story-Dec-2021-on-28.png)
Rydym wedi cefnogi plac porffor i goffáu Frances Hoggan, y mae un o’n medalau blynyddol wedi ei enwi ar ei ôl. Bydd y plac yn cael ei ddadorchuddio mewn seremoni yn Aberhonddu ar 3 Mawrth, gyda derbyniad yn Neuadd y Dref yn y dref i ddilyn.
Roedd Dr Frances Hoggan yn ymchwilydd meddygol arloesol o Gymru, yn ddiwygiwr cymdeithasol ac yn ffigur pwysig yn y frwydr i ganiatáu i fenywod astudio meddygaeth yn y 19eg ganrif.