Medal Frances Hoggan 2022

Mae’r Athro Ann John yn derbyn Medal Frances Hoggan 2022 am ei gwaith ar iechyd meddwl ac ar atal hunanladdiad a hunan-niweidio.

Mae ymchwil yr Athro John yn canolbwyntio ar iechyd meddwl ac ar atal hunanladdiad a hunan-niweidio; mae ei gwaith rheolaidd yn y cyfryngau yn ddylanwadol wrth lunio’r ffordd y mae hunanladdiad yn cael ei ddarlunio. Rhoddodd yr Athro John, sy’n gweithio ym Mhrifysgol Abertawe, gyngor gwyddonol i gyrff llywodraethol yn ystod y pandemig Covid hefyd. 

Mwy ynghylch y Fedal Frances Hoggan.