Taliadau Tanysgrifio Cymrodyr

Gwybodaeth a Chwestiynau Cyffredin

Mae taliadau tanysgrifio Cymrodyr yn gwneud cyfraniad hanfodol i waith y Gymdeithas. Rydym yn derbyn cyllid gan CCAUC, drwy bartneriaeth hirdymor, yn ogystal â phrifysgolion Cymru, ond mae’r help ariannol rydych yn ei roi i ni yn hanfodol i’r effaith y gallwn ei chael.

Sut mae eich tâl tanysgrifio yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ein gwaith

Sut mae eich tâl tanysgrifio yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ein gwaith

Faint yw tâl tanysgrifio Cymrodyr?

Gofynnir i Gymrodyr dalu tâl mynediad untro a thâl tanysgrifio blynyddol, a fydd yn talu am danysgrifiad blynyddol o flwyddyn.

Os ydych yn Gymrawd newydd, byddwch yn talu tâl mynediad o £90.

Ar ôl hynny, y tâl tanysgrifio blynyddol yw £180 (£90 i’r rhai dros 70 oed ar 22 Mai 2024). Mae pobl dros 85 oed wedi’u heithrio rhag talu taliadau mynediad a thanysgrifio.

Mae’r taliadau hyn yn darparu ffynhonnell bwysig o incwm i’r Gymdeithas. Fodd bynnag, rydym eisiau sicrhau nad ydynt byth yn rhwystr i Gymrodoriaeth. Felly, gall Cymrodyr ac Enwebeion ar gyfer Cymrodoriaeth wneud cais am gael eu taliadau wedi’u hepgor neu am gael gostyngiad ar unrhyw adeg: darllenwch ein polisi rhyddhad ffioedd.


Pryd fyddwch chi’n derbyn eich anfoneb ar gyfer eich tâl tanysgrifio blynyddol?

Rydym yn anfonebu bob blwyddyn, ym mis Mehefin, drwy e-bost.  Rydym yn anfon pob anfoneb trwy e-bost, oni bai ei bod yn well gennych dderbyn copi yn y post. Os yw’n well gennych dderbyn eich anfoneb drwy’r post, rhowch wybod i ni.

Hefyd, cysylltwch â ni os bydd eich manylion yn newid, fel y gallwn ddiweddaru ein cofnodion.

Rydym yn anfon anfonebau yn fuan ar ôl dechrau blwyddyn y Gymdeithas, sy’n dechrau ar ddiwrnod y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (dydd Mercher olaf ond un mis Mai fel arfer). Os nad ydych wedi derbyn eich anfoneb erbyn diwedd mis Mehefin, rhowch wybod i ni.


Pryd mae’r taliad yn ddyledus?

Mae’r taliad yn ddyledus 30 diwrnod ar ôl dyddiad yr anfoneb.

Os yw’r dyddiad hwn yn anodd mewn unrhyw ffordd, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni. Mae yna wybodaeth yn bellach i lawr hefyd ynghylch ein polisi rhyddhad ffioedd.


Sut i dalu?

Ffyrdd o dalu heb unrhyw gost ychwanegol i Gymdeithas Ddysgedig Cymru neu i chi’ch hun

Trosglwyddiad banc: gallwch ddod o hyd i’n manylion banc ar eich anfoneb i anfon trosglwyddiad banc drwy’ch banc.

Archeb sefydlog: gallwch drefnu talu drwy archeb sefydlog gyda’ch banc, fel bod eich taliad yn cael ei gymryd yn awtomatig bob blwyddyn.  Byddwn yn rhoi gwybod i chi os yw’r tâl sydd angen i chi ei dalu yn newid, fel eich bod yn gallu newid eich archeb sefydlog mewn da bryd.

Ffyrdd o dalu am gost fach i Gymdeithas Ddysgedig Cymru

Debyd uniongyrchol: gallwch drefnu talu drwy Ddebyd Uniongyrchol trwy ein system GoCardless. 

Talu gyda cherdyn / cerdyn credyd: gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth talu, ‘Stripe’, i dalu gyda cherdyn neu gerdyn credyd.

Bydd rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r dulliau hyn ar eich anfoneb.

Os nad ydych yn gallu talu am eich tanysgrifiad yn llawn gallwch rannu’r swm yn daliadau llai, haws eu trin, dros gyfnod o 12 mis.

Os ydych yn dymuno talu am eich tanysgrifiad mewn rhandaliadau, cysylltwch â’n Swyddog Cyllid i drafod cynllun talu gyda chi. Sicrhewch fod y swm yn cael ei dalu erbyn mis Gorffennaf y flwyddyn ganlynol os gwelwch yn dda.


Polisi rhyddhau taliadau

Rydym eisiau sicrhau nad yw ein taliadau byth yn rhwystr i Gymrodoriaeth. Felly, gall Cymrodyr ac Enwebeion ar gyfer Cymrodoriaeth wneud cais am gael eu tâl wedi’i hepgor neu am gael gostyngiad ar unrhyw adeg.

Mae ein polisi ar gyfer hepgor neu ostwng taliadau yn esbonio sut y byddwn yn delio â phob cais yn deg ac yn gyfrinachol.


Cymorth Rhodd: ffordd syml o gefnogi Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Os ydych yn drethdalwr yn y DU ac yn cytuno i Gymorth Rhodd, bydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn derbyn 25% arall ar ben eich tanysgrifiad blynyddol a rhoddion eraill, heb unrhyw gost ychwanegol i chi. 

Dim wedi cofrestru eto?
Er mwyn ein cefnogi ymhellach, ystyriwch gofrestru ar gyfer Cymorth Rhodd drwy lenwi’r ffurflen syml hon.

Wedi cofrestru’n barod?  
Diolch i chi am y cyfraniad ychwanegol rydych chi eisoes yn ei wneud drwy Gift Aid. Os ydych chi wedi symud yn ddiweddar ac wedi newid eich cyfeiriad, anfonwch neges e-bost at finance@lsw.wales.ac.uk, fel y gallwn ddiweddaru eich cofnod Cymorth Rhodd.


A gaf i roi mwy o arian i’r Gymdeithas?

Rydym yn ddiolchgar iawn os ydych chi mewn sefyllfa i wneud cyfraniad ychwanegol i’r Gymdeithas.

Gallwch wneud hyn naill ai drwy dalu swm uwch pan fyddwch yn derbyn eich anfoneb neu drwy roi rhodd untro. I wneud hynny, defnyddiwch ein manylion banc, y gallwch ddod o hyd iddynt ar eich anfoneb, neu anfonwch e-bost atom yn finance@lsw.wales.ac.uk.

Rhoi arian at ddefnydd penodol
Os hoffech chi roi rhodd i gefnogi medal, gwobr neu ddigwyddiad penodol, rydym yn hapus i glywed gan unrhyw unigolyn neu sefydliad a fyddai â diddordeb mewn cefnogi prosiectau o’r fath yn y dyfodol.


Gwybodaeth ychwanegol