Yr Athro Timothy Green
FREng FIEEE FCSEE FIET FLSW
Athro Peirianneg Pŵer Trydanol, Coleg Imperial Llundain.
Athro Peirianneg Pŵer Trydanol yng Ngholeg Imperial Llundain yw’r Athro Green. Ffocws ei ymchwil yw datblygu system cyflenwi trydan digarbon cost-effeithiol a dibynadwy a all gynnwys ffynonellau adnewyddadwy newidiol. Mae’n arbenigo mewn electroneg pŵer ac yn gweithio ar reolaeth, sefydlogrwydd a diogelu systemau pŵer y mae llawer o adnoddau seiliedig ar wrthdroyddion yn treiddio iddynt. Mae ei waith wedi cael ei gefnogi gan sefydliadau amrywiol, gan gynnwys EPSRC, Hitachi Energy, National Grid ESO, a UK Power Networks.