Professor Terry Threadgold
Athro Emerita Cyfathrebu ac Astudiaethau Diwylliannol, a chyn Ddirprwy Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd.
Mae gan Terry enw da rhyngwladol fel ysgolhaig ac ymchwilydd ffeministaidd, ac am ei gwaith rhyngddisgyblaethol mewn dadansoddi disgwrs ffeministaidd a theori feirniadol.
Cafodd ei haddysgu ym Mhrifysgol Sydney, lle dyfarnwyd Medal y Brifysgol iddi am ei Thesis Ymchwil Anrhydedd Meistr. Cwblhaodd ei PhD ym Mhrifysgol Monash. Cafodd ei phenodi i Brifysgol Caerdydd fel athro ymchwil mewn Cyfathrebu ac Astudiaethau Diwylliannol yn y cyfnod cyn Ymarfer Asesu Ymchwil 2001. Ymddeolodd o Brifysgol Caerdydd yn 2012.
Mae swyddi Terry’n cynnwys Pennaeth Dros Dro yr Adran Llenyddiaeth ac Iaith Saesneg Cynnar, Prifysgol Sydney (1991 – 1992), Athro a Phennaeth yr Adran Saesneg, Astudiaethau Diwylliannol a Drama, Prifysgol Monash (1993 – 1995), a Phennaeth yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol ym Mhrifysgol Caerdydd (2003 – 2007). Roedd hi’n Ddeon Cyswllt Astudiaethau Graddedigion (1995-1997) ac yn Ddeon y Celfyddydau Dros Dro yn Monash (1998-1999).
Roedd hi’n Ddirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Caerdydd rhwng 2007 a 2012. Yn ystod y cyfnod hwn, bu’n Bennaeth yr Ysgolion Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth a Hanes, Archaeoleg a Chrefydd hefyd. Hi oedd pencampwr cydraddoldeb y brifysgol ac uwch arweinydd academaidd y brifysgol ar eu polisi Amgylchedd Gwaith Cadarnhaol, Athena Swan, Buddsoddwyr mewn Pobl a Gweithle Stonewall, gan gyflawni llwyddiant i’r brifysgol ym mhob un o’r meysydd hyn. Bu’n aelod o’r Cyngor ym Mhrifysgolion Monash a Chaerdydd, ac yn ymddiriedolwr ac yn gadeirydd sefydliadau elusennol yng Nghymru.
Ym mhob un o’r cyd-destunau hyn, mae hi wedi cael profiad helaeth o reoli cyllidebau mawr, adnoddau dynol a’r llywodraethu sy’n gysylltiedig â’u hyfywedd ariannol ac academaidd.
Cafodd Terry ei hethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru (LSW) yn 2015, a chafodd ei hethol yn aelod o Gyngor Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2016. Fel aelod o Gyngor Cymdeithas Ddysgedig Cymru, cadeiriodd Adolygiad o Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y Gymdeithas Ddysgedig (2017-19). Hi yw Trysorydd y Gymdeithas ar hyn o bryd.