Y Fonesig Sue Ion
DBE OBE FRS FREng FINucE HonFLSW
Mae’r Fonesig Sue Ion wedi gwneud cyfraniadau eithriadol i fyd dysgu, gan ragori yn ei maes a thrwy rolau arwain cenedlaethol a rhyngwladol, ac mae hi’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol am ei harbenigedd, ei chyfraniadau at bolisi ynni, ac at y defnydd diogel ac effeithlon o bŵer niwclear. Fel Cyfarwyddwr Technoleg British Nuclear Fuels Ltd (1992-2006), arweiniodd dros 1,000 o wyddonwyr/peirianwyr gyda buddsoddiadau blynyddol o dros fwy na £100m. Adeiladodd gysylltiadau ymchwil academaidd cryf yn y DU ac yn rhyngwladol hefyd, ac ymgysylltu’n weithredol i lywio polisi’r llywodraeth.