Yr Athro Stephen Eales
FRAS FLSW
Athro Astroffiseg a Chyd-Gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil a Thechnoleg Astroffiseg Caerdydd, Prifysgol Caerdydd
Mae’r Athro Eales wedi arloesi’r defnydd o seryddiaeth is-filimedr i astudio galaethau, eu tarddiad a’u hesblygiad. Mae wedi dylunio ac arwain llawer o arolygon pwysig, ac wedi dyfeisio rhai o’r cysyniadau allweddol yn y maes. Mae’r arolygon hyn wedi arwain at lawer o ddarganfyddiadau, gan gynnwys hynafiaid galaethau eliptig heddiw, newidiadau i alaethau yn y gorffennol cymharol ddiweddar, poblogaeth o alaethau lensiog cryf yn y bydysawd cynnar, a’r amrywiad ar raddfa fawr ym mhriodweddau llwch rhyngserol o fewn galaethau.