Yr Athro Sheila Hunt
FLSW
Athro Emeritws / Personol ac Arweinyddiaeth, Sheila Hunt Coaching.
Mae’r Athro Hunt yn ffigwr dylanwadol ym meysydd gofal iechyd clinigol ac academaidd yn y DU. Mae hi wedi chwarae rhan hollbwysig er mwyn datblygu clinigwyr ac ymchwilwyr yng Nghymru, ac wedi annog a helpu academyddion nyrsio a bydwreigiaeth a chlinigwyr y GIG i wneud cais am grantiau, dosbarthu ymchwil ac ysgrifennu papurau. Mae’r Athro Hunt yn aelod o Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR) Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru. Mae ei chyfraniadau i wella iechyd pobl Cymru, y GIG, ymchwil ac addysg wedi bod yn rhagorol.