Dr Sally Davies

Etholwyd: 2011

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Addysg, Meddygaeth

Yn flaenorol: Is-Ddeon, Ysgol Addysg Feddygol a Deintyddol Ôl-raddedig, Prifysgol Caerdydd; Ymgynghorydd mewn Geneteg Feddygol, Gwasanaeth Geneteg Feddygol Cymru Gyfan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Ymgymerodd Dr Sally Davies (fe’i gelwir yn ffurfiol fel Sarah Jane Clyburn) â’i hastudiaethau meddygol ym Mhrifysgol Caergrawnt ac Ysbyty Llundain, Whitechapel. Dechreuodd ei gyrfa yn Llundain a Rhydychen, cyn dychwelyd i Gaerdydd ym 1985. Aeth ymlaen i arbenigo mewn geneteg glinigol, gan ddod yn Feddyg Ymgynghorol yng Ngwasanaeth Geneteg Feddygol Cymru yn ogystal â dod yn Is-ddeon yn yr Ysgol Addysg Feddygol a Deintyddol i Raddedigion ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd Sally yn falch o fod yn Llywydd y Ffederasiwn Menywod Meddygol 2014-2016.