Yr Athro Rossi Setchi
Athro mewn Gweithgynhyrchu Uchel Ei Werth, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Peiriant Dynol (IROHMS), Prifysgol Caerdydd.
Athro ym maes Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel yw Rossi Setchi, a Chyfarwyddwr a Phrif Ymchwiliwr y Ganolfan Dealltwriaeth Artiffisial, Roboteg a Systemau Peiriant-Dynol ym Mrifysgol Caerdydd. Mae hi wedi darparu arweinyddiaeth ar dros 30 o brosiectau cydweithredol a ariennir gan y Gymdeithas Frenhinol, Yr Academi Beirianneg Frenhinol, EPSRC a’r Comisiwn Ewropeaidd, a chydweithio â dros 50 o brifysgolion a 30 o gwmnïau diwydiannol. Mae hi wedi hyrwyddo’r proffesiwn peirianneg yn ogystal ag addysg Gymreig. Mae’r Athro Setchi wedi cwblhau prosiectau gwerth miliynau gyda diwydiant a’r llywodraeth, gan greu effaith sylweddol drwy drosglwyddo technoleg, arloesi, a buddsoddi ym maes gweithgynhyrchu yng Nghymru.