Yr Athro Roger King
LFIEEE PE FLSW
William L. Giles Athro Emeritws Nodedig, Prifysgol Talaith Mississippi.
Mae Roger King yn Athro Emeritws Nodedig ym Mhrifysgol Talaith Mississippi. Mae ei waith ymchwil ym maes prosesu delweddau a signalau wedi’i ddyfynnu’n eang, ac wedi arwain at gymwysiadau amrywiol. Mae wedi arwain amryw o ganolfannau ymchwil rhyngddisgyblaethol mawr, ac wedi sicrhau dros $90 miliwn mewn cyllid ymchwil. Mae’r Athro King hefyd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol at bolisi cyhoeddus ac wedi gweithio fel Prif Dechnolegydd ar gyfer Arsylwi’r Ddaear yn NASA, yn ogystal â chanlyn gyrfa lwyddiannus ym Miwro Mwyngloddiau’r UD.