Professor Robert Beynon

Etholwyd: 2015

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Biocemeg

Cadair Proteomeg, Prifysgol Lerpwl

Enillodd Rob Beynon ei BSc a’i PhD mewn biocemeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Dechreuodd ei yrfa fel darlithydd ym Mhrifysgol Lerpwl yn 1977 ac yn 1993 cafodd ei benodi’n Gadeirydd Biocemeg yn Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Manceinion.  Cafodd ei benodi olaf yn Gadeirydd Proteomeg, Prifysgol Lerpwl o 1999 hyd 2019.  Ei brif feysydd ymchwil yw meysydd protein cemeg, proteomeg, proteolysis, ac ensymau proteolytig.

 Roedd yn arloesi yn y ddealltwriaeth o ddynameg protein yn fyd eang ac ar raddfa proteome ac mewn datblygu dulliau perthnasol mewn anifeiliaid cyfan a systemau cymhleth. Datblygodd strategaeth newydd gyfan ar gyfer meintioliad absoliwt a amlblecswyd mewn proteomeg (QconCAT) sydd wedi eu cymhwyso i feysydd amrywiol o wyddoniaeth protein.

Ei waith ‘mwyaf cyffredin’ yw gwefan sy’n cyfrifo byffer sy’n thermodynamig gywir (www.phbuffers.org) sydd wedi helpu’r gymuned wyddonol ar draws y byd i baratoi dros un filiwn a chwarter litr o fyffer!