Yr Athro Mark Taubert
FRCP FRCGP FFMLM FLSW
Cyfarwyddwr Clinigol Meddygaeth Liniarol ac Athro Anrhydeddus, Prifysgol Caerdydd, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
Ffocws yr Athro Taubert yw gofal lliniarol, gan ddefnyddio’r cyfryngau newydd mewn lleoliadau clinigol a gwneud penderfyniadau tua diwedd oes. Ef yw sylfaenydd TalkCPR.com ac mae’n cadeirio grŵp llywio cenedlaethol sy’n ceisio gwella’r ddealltwriaeth o gynllunio gofal ymlaen llaw. Mae wedi cyflwyno Ted Talk rhyngwladol ar gynildeb ieithyddol sy’n berthnasol i ofal lliniarol, ac mae ei brosiectau wedi cael sylw gan BBC News, y Guardian, CNN, Al Jazeera a’r Washington Post.