Mr Llŷr Williams
FLSW
Pianydd cyngerdd â repertoire helaeth yw Llŷr Williams. Mae’n perfformio’n rheolaidd mewn neuaddau cyngerdd mawr yn rhyngwladol ac o fewn y DU, ac mae ganddo gysylltiadau hir â bron pob un o’r sefydliadau a’r gwyliau cerddorol yng Nghymru. Yn gyn Artist Cenhedlaeth Newydd y BBC, mae wedi perfformio â holl brif gerddorfeydd y DU.