Y Farwnes Brown o Gaergrawnt, Yr Athro Fonesig Julia King
DBE CEng FREng FRS FInstP HonFLSW
Mae’r Farwnes Brown o Gaergrawnt, yr Athro Julia King, yn un o beirianwyr benywaidd Prydain sydd wedi cyrraedd brig eu proffesiwn ac sydd nawr, yn ddylanwadol mewn sawl maes. Mae ei chyflawniadau wedi cael eu cydnabod gan nifer o wobrau, gan gynnwys ei dyrchafiad i Dŷ’r Arglwyddi fel cyfoed bywyd (Cross Bench). Mae hi’n arbennig o adnabyddus am ei gwaith ar newid yn yr hinsawdd ac mae hi’n cadeirio’r is-bwyllgor Ymaddasu i Newid yn yr Hinsawdd y DU, yn gadeirydd yr Ymddiriedolaeth Garbon, ac yn gweithredu fel Llysgennad Busnes Carbon Isel y DU.