Yr Athro Jamie Davies
FRSE FLSW
Athro Anatomeg Arbrofol, a Deon Addysg Ddysgedig, Prifysgol Caeredin.
Mae’r Athro Jamie Davies, Athro Anatomeg Arbrofol ym Mhrifysgol Caeredin, yn gweithio ar ddatblygiad embryonig yr arennau. Yn sgil ei ymchwil, bu modd creu arennau bach o fôn-gelloedd, gan gyflwyno gwelliannau mawr i astudiaethau datblygu’r arennau, profi cyffuriau a thriniaethau clefyd yr arennau.