Yr Athro Hywel Thomas

Etholwyd: 2011

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Peirianneg

Yr Athro Hywel Thomas CBE FREng MAE FLSW FRS yw trydydd Llywydd y Gymdeithas.

Mae’r Athro Thomas yn Gyfarwyddwr sylfaen y Ganolfan Ymchwil Geoamgylcheddol yn y Brifysgol ac yn Athro UNESCO ar gyfer Datblygu Geoamgylchedd Cynaliadwy. Mae’n Athro Ymchwil Nodedig ym Mhrifysgol Abertawe. Ef hefyd yw arweinydd FLEXIS, prosiect £24 miliwn ar gyfer ymchwil systemau ynni yng Nghymru.

Mae’n Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS), Cymrawd yr Academi Peirianneg Frenhinol (FREng), ac yn Aelod o Academia Europaea, Academi Ewrop. Yn 2017 derbyniodd CBE am wasanaethau i ymchwil academaidd ac addysg uwch.