Yr Athro Helen Fulton
Athro Llenyddiaeth Ganoloesol, Prifysgol Bryste
Astudiodd Helen Fulton ym Mhrifysgol Sydney a Phrifysgol Rhydychen, lle bu’n arbenigo mewn llenyddiaeth Saesneg ganoloesol ac Astudiaethau Celtaidd. Dyfarnwyd cymrodoriaeth ôl-ddoethurol Prifysgol Cymru yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth iddi, a chymrodoriaeth ôl-ddoethurol Leverhulme.
Yn dilyn rhywfaint o flynyddoedd yn gweithio fel darlithydd ac Athro Cysylltiol ym Mhrifysgol Sydney, penodwyd Helen yn Athro Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe yn 2005. Bu’n Athro Llenyddiaeth Ganoloesol ym Mhrifysgol Caerefrog o 2010 i 2015, ac ar hyn o bryd, mae hi’n Athro ac yn Gadeirydd Llenyddiaeth Ganoloesol ym Mhrifysgol Bryste. Cafodd ei phenodi fel Cymrawd Ymchwil Gwadd yng Ngholeg Corpus Christi, Caergrawnt (2003-4), Coleg Sant Ioan, Rhydychen (2013-14), a Choleg Magdalen, Rhydychen (2020). Mae Helen wedi derbyn grantiau ymchwil mawr gan Gyngor Ymchwil Awstralia, Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, ac Ymddiriedolaeth Leverhulme, a dyfarnwyd Cymrodoriaeth Ymchwil Fawr Leverhulme iddi o 2020 i 2022.