Ein taith ‘Ecwiti, Amrywiaeth a Chynhwysiant’… hyd yn hyn
Mae’r Athro Terry Threadgold FLSW yn ysgolhaig ffeministaidd, sydd wedi denu canmoliaeth ryngwladol am ei gwaith ar ryw, hil a hunaniaeth. Yma, mae hi’n olrhain taith ecwiti, amrywiaeth a chynhwysiant Cymdeithas Ddysgedig Cymru ers ei ffurfio yn 2010, ac yn nodi’r rhwystrau sydd ar ôl i’w chwalu.
Wrth imi ddechrau meddwl am ymddeol o’r diwedd eleni o’m swydd fel cadeirydd Gweithgor Ecwiti, Amrywiaeth a Chynhwysiant Cymdeithas Ddysgedig Cymru, mae’n ddiddorol myfyrio ar ein cynnydd ers 2017, a meddwl am rai o’r camau ar y daith sydd wedi ein tywys i’r fan hon heddiw, a’r rhwystrau a wynebwyd ar hyd y ffordd, yn ogystal â’r gwaith sydd yn dal angen ei wneud.
Sefydlwyd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2010 pan etholwyd 55 o ddynion a 6 o fenywod.
Cefais fy ethol yn aelod o Gyngor y Gymdeithas yn 2016. Nid wyf fel arfer yn brin o eiriau ond, yn y cyd-destun gwrywaidd iawn hwnnw fodolai o hyd, ni allwn weld lle’r oeddwn yn perthyn, beth y gallai fod gennyf i’w ddweud, neu sut y gallwn gyfrannu. Siaradais am hyn ag un o’r Is-lywyddion ar y pryd, ac esboniodd dros baned fod swydd ar gael imi yma, os oedd diddordeb gen i. Roedd angen i’r Cyngor benodi Cadeirydd i gynnal adolygiad o Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ym mhob agwedd ar waith y Gymdeithas. O gytuno i wneud y gwaith, tybiais y byddwn yn sicr o gael fy nghynnwys. Roedd sicrhau cynhwysiant, fodd bynnag, yr un mor anodd ar y pryd ag y mae’r rhan fwyaf o ymdrechion i gynnwys eraill yn tueddu i fod.
Yn 2014, roedd yr Athro Terry Rees wedi cynnal adolygiad o rywedd o fewn y Gymdeithas. Un o argymhellion allweddol ei hadroddiad oedd cynyddu nifer y menywod a oedd yn cael eu henwebu; y flwyddyn honno, 14% oedd canran y menywod a gafodd eu henwebu. Cynhaliwyd adolygiad dilynol yn 2017 yn deillio yn rhannol o’r adroddiad hwn gan Rees, a hefyd o gyfres o gyfweliadau a gomisiynwyd. Roedd y rhain yn archwilio canfyddiadau allanol o’r Gymdeithas ac, ynghyd â barn y gymrodoriaeth, yn cyfrannu at strategaeth y Gymdeithas dros y pum mlynedd nesaf.
Daeth nifer o faterion i’r amlwg o’r cyfweliadau hynny: nid oedd y Gymdeithas yn adrodd stori ddigon clir ynghylch ei diben a’r hyn yr oedd yn ei wneud; ac roedd y rhai a gafodd eu cyfweld yn dadlau y dylid sicrhau mwy o amrywiaeth ymhlith ei phobl a’i gwaith. Amlygodd hyn hefyd fod angen i’r diffiniad ‘dysgedig’ fod yn ehangach, i gynnwys eraill, o bosib o fyd diwydiant neu yng nghyfnodau cynharach eu gyrfa. Er hynny, teimlwyd hefyd bod potensial aruthrol i effaith gwaith ac arweinyddiaeth y Gymdeithas, llais y Gymdeithas, fel petai, ‘helpu i sbarduno Cymru yn ei blaen.’
Erbyn 2017, roedd menywod i gyfrif am 27% o’r rhai a oedd wedi’u hethol i’r gymrodoriaeth. Erbyn hynny, roedd yn cynnwys 380 o ddynion ac 85 o fenywod. Ar y pryd, roedd yna dîm bach o staff gweinyddol a phroses ethol sefydledig, er mai proses wedi’i dylunio i fod yn ‘gyfyngol’ oedd honno, yn hytrach na chynhwysol. Roedd amlwg bod angen ystyried llawer iawn o newid, ac roedd y briff ar gyfer adolygiad 2017, a gymeradwywyd gan y Cyngor, yn cynnwys yr holl broses enwebu, strwythur, ffurf a threfniadau llywodraethu’r Pwyllgorau Craffu, trefniadau llywodraethu’r Gymdeithas, yn enwedig ym maes adnoddau dynol, a drafftio cynllun cydraddoldeb strategol.
Sefydlwyd grŵp adolygu yn cynnwys 4 aelod allanol ac 17 o Gymrodyr. Sefydlodd y grŵp hwn weithgor enwebiadau, gweithgor amrywiaeth, a grŵp gorchwyl a gorffen ar gyfer cynllun strategol. Bûm yn cadeirio cyfres o grwpiau ffocws ledled Cymru ac yn cynnal cyfweliadau â chadeiryddion paneli craffu. Roedd y newidiadau a ddeilliodd o’r gwaith hwn yn helaeth. Ailysgrifennwyd y ffurflenni enwebu i fod ag agwedd fwy cynhwysol at nifer o grwpiau a fyddai fel arall yn cael eu heithrio: menywod, pobl o brifysgolion heblaw Abertawe neu Gaerdydd a staff yr oedd eu proffiliau a’u rhagoriaeth yn arddangos mathau gwahanol o weithgarwch ymchwil, er enghraifft ym maes addysgu ac ysgolheictod neu genhadaeth ddinesig. Cyflwynwyd meincnodau, i greu tryloywder ac eglurder. Ailbennwyd uchafswm y Cymrodyr a gaiff eu hethol bob blwyddyn yn ‘tua 40’ yn lle 40, a chyflwyno meini prawf clir a fyddai, o’u bodloni, bob tro yn golygu bod unigolion yn cael eu hethol. Rhoddwyd adborth i ymgeiswyr aflwyddiannus, a chyflwyno ffurflen amgylchiadau unigol.
Yn ogystal â hynny, sefydlwyd Pwyllgor y Gymrodoriaeth, i’w gadeirio gan Is-lywyddion ac i gynnal adolygiad rheolaidd o’r broses ethol, ymhlith dyletswyddau eraill. Nid yw’r byd yn sefyll yn ei unfan ac mae angen i’n prosesau a’n ffurflenni gadw’n gyfredol â’r newid hwnnw. Gwnaed newidiadau tebyg yn fwy diweddar i gynnwys ystod gyfan o wahaniaethau ac amrywiaeth o dan y pennawd ICAP: Diwydiant, Masnach, y Celfyddydau a’r Proffesiynau. Ailysgrifennodd pwyllgor y Gymrodoriaeth y panel craffu C1 blaenorol i gyflwyno dau banel ICAP gyda’u gofynion eu hunain a oedd yn berthnasol i’r enwebeion penodol a allai fod angen eu defnyddio ac a fyddai, ar ôl eu hethol, yn creu mwy o amrywiaeth ac yn cyfoethogi ein Cymrodoriaeth.
Yn dilyn hyn oll, yn 2022 cawsom y flwyddyn gyntaf lle llwyddwyd bron i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau ymhlith ein Cymrodyr etholedig – yn rhannol yn sgil addewid gan aelodau ein Cyngor i enwebu menywod yn benodol. Fodd bynnag, nid yw’r niferoedd yn sefydlog, a byddwn yn parhau i annog ein Cymrodyr i enwebu menywod bob blwyddyn.
Mae’r newidiadau hyn oll yn enghreifftiau o ecwiti ar waith. Ond mae mwy i’w wneud o hyd.
Nid ydym eto wedi mynd i’r afael â’r ystod lawn o nodweddion gwarchodedig eraill a restrir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Nid ydym ond megis dechrau mynd i’r afael ag enwebu rhagor o bobl o gefndiroedd lleiafrifol ethnig a dathlu eu cyfraniadau at ddysg yng Nghymru. Roedd traean o’r rhai a etholwyd ym mhroses etholiadol 23-24, gydag ymdrech arbennig gan aelodau’r Cyngor, yn Gymrodyr a oedd yn nodi eu bod o gefndir lleiafrifol ethnig. Ni fyddwn yn gallu cynnal hyn hon heb barhau â’r gwaith hwn.
Bydd newid yn golygu nid yn unig cefnogi’r cydweithwyr hyn, ond hefyd targedu’r angen i newid at y rhai yn ein plith sydd yn freintiedig, yn hytrach na thargedu hynny at yr unigolion dan sylw. Rhaid barnu ynghylch y rhagoriaeth wrth gyflawni, yr enw da a’r effaith yr ydym yn chwilio amdano yn ein cymrodoriaeth yng nghyswllt yr amgylchiadau croestoriadol y mae unigolyn wedi’u profi, ac ansawdd y cyflawniad neu’r cynnyrch yn hytrach na’i faint.