Newyddion RYGC: Cefnogi Ymchwil ym maes Dwyieithrwydd yn ISBAC 2024, Prifysgol Abertawe

Roedd y tîm Datblygu Ymchwilwyr yn falch o gefnogi’r 5ed Symposiwm Rhyngwladol ar Brosesu Dwyieithog a L2 mewn Oedolion a Phlant (ISBAC), a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Abertawe rhwng 23 a 24 Mai 2024.

Roedd y digwyddiad, a drefnwyd gan Dr Vivienne Rogers, yn dwyn ynghyd ymchwilwyr o 12 gwlad wahanol sydd â diddordeb mewn caffael a phrosesu ieithyddol, a rôl dwyieithrwydd/amlieithrwydd mewn gwybyddiaeth (niwro).

Roedd cynnal y Symposiwm ym Mhrifysgol Abertawe yn gyfle gwych i arddangos rôl bwysig Prifysgol Abertawe a sefydliadau Cymreig eraill mewn cyfrannu at ymchwil ym maes dwyieithrwydd ar raddfa ryngwladol.

Roedd y Symposiwm deuddydd yn cynnwys pedair sesiwn lawn, dau weithdy, pedwar ar ddeg o sgyrsiau ymchwil a 52 cyflwyniad posteri ymchwil!

Cyflwynodd enillydd ein Medalydd Dillwyn 2020 ar gyfer y Dyniaethau a’r Celfyddydau Creadigol, Dr Gwennan Hingam (Prifysgol Abertawe) sesiwn lawn yn Gymraeg, o’r enw ‘Developing personal integration projects through a multilingual Welsh language provision for adult migrants’.

Cyflwynodd aelod o’r Rhwydwaith YGC a Chynrychiolydd Cymreig Academi Ifanc y DU, Dr Emily Lowthian, weithdy cyn y gynhadledd o’r enw ‘Latent Variable Modelling’, a wnaeth archwilio damcaniaeth a chymhwysiad ymarferol Dadansoddi Dosbarth Cudd yn defnyddio meddalwedd fel R, SPSS, MPlus fel Stata.

Roeddem yn falch o gefnogi ymchwilwyr sy’n gweithio ym maes ymchwil ar ddwyieithrwydd, trwy gynnig bwrsariaethau teithio i aelodau o’r Rhwydwaith YGC oedd yn mynychu’r Symposiwm, a noddi’r gwobrau ar gyfer y gystadleuaeth posteri.

Enillwyr y gystadleuaeth posteri oedd:

Gwobr 1af: Figen Karaka, Centre for Language Studie, Prifysgol Radbound

2il Wobr: Mia Coutinho, Prifysgol Georgetown

3ydd Gwobr (rhannu): Felicity Sarnoff a Carly Levy, Princetown State University

3ydd Gwobr (rhannu): Duygu F. Şafak, TU Braunschweig

Gallwch weld y rhaglen lawn ar gyfer y Symposiwm yma.