Cynghrair Academïau Celtaidd yn taflu goleuni ar ddiwylliant ymchwil effeithiol

Mae cydweithio, hyfforddi arweinwyr ymchwil a gwerthoedd clir i gyd yn hanfodol wrth greu diwylliant ymchwil cynhwysol ac effeithiol.

Roedd y rhain ymhlith y gwersi pwysig niferus a ddaeth i’r amlwg o’r Gynhadledd Diwylliant Ymchwil ac Arloesi a gynhaliwyd gan y Gynghrair Academïau Celtaidd (CAA) yn Nulyn ym mis Tachwedd 2024.

Roedd y gynhadledd yn cynnwys tair sesiwn a oedd yn archwilio uniondeb ymchwil; cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI); a’r diwylliannau ymchwil o fewn y gwledydd Celtaidd. Cymerodd cymrodyr o’r tair academi sy’n ffurfio’r CAA ran, gan gynnwys Dr Emma Yhnell FLSW, yr Athro Helen Roberts FLSW, a’r Athro Louise Bright FLSW o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

“Roedd hyn yn llwyddiant ysgubol,” meddai Dr Fiona Dakin, un o drefnwyr y digwyddiad a Phennaeth Polisi Cyhoeddus Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

“Roedd yn ddiddorol gweld sut y daeth themâu tebyg i’r amlwg ar draws y tair sesiwn. Roedd diwylliant ymchwil positif yn cael ei weld fel mater o uniondeb, ymagwedd sydd angen cael ei sefydlu ar ddechrau gyrfa unigolyn, ac sydd angen cael ei feithrin drwy gydol gyrfa ymchwilydd.

“Yn yr un modd ag y gall diwylliannau da arwain at ragoriaeth, gall diwylliannau gwael gael effaith i’r gwrthwyneb. Gall ‘hyper-gystadlu’, meddwl seilo a chyfathrebu gwael ddifetha cymaint o brosiectau ymchwil a gyrfaoedd addawol.”

Mae’r CAA yn dwyn ynghyd academïau cenedlaethol Iwerddon, yr Alban a Chymru i annog cydweithio, cydweithredu a dysgu ar y cyd. Daeth pwysigrwydd partneriaethau o’r fath i’r amlwg drwy gydol y gynhadledd, gan ganolbwyntio ar sut y gall y cenhedloedd Celtaidd gymharu a rhannu gwersi a ddysgwyd.

“Roedd consensws bod dod â lleisiau at ei gilydd, fel mae’r CAA yn ei wneud, yn chwyddo’r neges am ddiwylliant ymchwil positif,” meddai Dr Dakin.

“Fel y dywedodd Dr Louise Bright, wrth gyfeirio at EDI a’r rhaglen ‘Equate Scotland’, mae cymaint y gallwn ei ddysgu oddi wrth ein gilydd.

“Gall yr Academïau Cenedlaethol chwarae rhan hanfodol o ran casglu a rhannu’r arfer gorau hwn.”

Gallwch wylio fideos o bob un o’r tri sesiwn yma:

Research Integrity

Equity, Diversity & Inclusion

Research Culture in the Celtic Nations