Ffurflenni Enwebu
Rhaid i’r Cynigydd fod yn Gymrawd y Gymdeithas. Ym mhob cylch etholiad, caiff Cymrawd weithredu fel Cynigydd ar gyfer tri Enwebai yn unig. Fodd bynnag, mae Enwebeion benywaidd ac Enwebeion o grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol wedi’u heithrio o’r cyfyngiad hwn.
Cyn gwneud enwebiad, mae’n hanfodol darllen ein dogfennau cyfarwyddyd cysylltiedig. Mae’r rhain yn cynnwys cyngor ar sut i lenwi pob ffurflen.
Rhaid i’r Cynigydd gyflwyno’r holl ddogfennau, wedi’u cwblhau’n llawn, cyn hanner dydd ar 31 Hydref 2024.
Caiff Enwebeion ddewis cwblhau Ffurflen Amgylchiadau Unigol gyfrinachol, gyda manylion unrhyw amgylchiadau a allai fod wedi effeithio ar eu gyrfa.
Diwydiant, Masnach, y Celfyddydau a Phroffesiynau (DMCP)
Os ydych chi’n ystyried enwebiad DMCP, efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi edrych ar y Cymrodyr DMCP a etholwyd yn 2024:
https://www.cymdeithasddysgedig.cymru/cyflwyno-ein-cymrodyr-newydd-2024-icap1-c/
https://www.cymdeithasddysgedig.cymru/cyflwyno-ein-cymrodyr-newydd-2024-icap2-c/
Dyma ganllawiau etholiadol – Diwydiant, Masnach, y Celfyddydau a Phroffesiynau
Rhaid cyflwyno enwebiadau ar gyfer Diwydiant, Masnach, y Celfyddydau a Phroffesiynau ar y ffurflenni hyn:
- Ffurflen Enwebu DMCP
- Ffurflen Tystiolaeth yr Enwebai DMCP
- Adroddiad Cefnogwr Gwybodus DMCP
- CV (darparwyd gan yr Enwebai)
- Ffurflen Amgylchiadau Unigol DMCP (dewisol)
Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol (HASS) a Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth (STEMM)
Os ydych chi’n ystyried enwebiad HASS neu STEMM, efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi edrych ar y Cymrodyr a etholwyd yn 2024.
Dyma ganllawiau etholiadol – STEMM a HASS
Rhaid cyflwyno enwebiadau ar gyfer STEMM a HASS ar y ffurflenni hyn:
- Ffurflen Enwebu SH
- Ffurflen Tystiolaeth yr Enwebai SH
- Adroddiad Cefnogwr Gwybodus SH
- CV (darparwyd gan yr Enwebai)
- Ffurflen Amgylchiadau Unigol SH (dewisol)
Enwebiadau Cymrodyr er Anrhydedd
Mae’r safon ar gyfer Cymrodyr er Anrhydedd yn arbennig o uchel, ac mae’r broses ethol yn wahanol.
Er mwyn i enwebiad gael ei ystyried yng nghylch etholiadol 2024-25, mae’n rhaid i ni dderbyn y Dystysgrif Argymhelliad erbyn 30 Medi 2024.
Lawrlwythwch y canllawiau a’r ffurflenni perthnasol yma:
Mae rhestr o’n Cymrodyr er Anrhydedd presennol ar gael yma.