Cymdeithas Ddysgedig yn croesawu cyllid parhaus ar gyfer Medal Frances Hoggan
Mae’r Gymdeithas yn falch o gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi ein medal Frances Hoggan am ymchwil rhagorol gan ferched ym maes STEMM am bum mlynedd arall.
Mae’r fedal yn cydnabod cyfraniad menywod i ymchwil ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth (STEMM) gan fenyw sydd â chysylltiad â Chymru.
Dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams
Bydd y fedal eleni yn cael ei dyfarnu ym mis Mai, ynghyd â’r fedalau Dillwyn ar gyfer ymchwilwyr gyrfa gynnar, y fedal Menelaus ar gyfer peirianneg a thechnoleg, a’r fedal Hugh Owen ymchwil addysgol. Dyddiad cau enwebiadau medalau 2020-21 yw 5.00pm ar 30 Mawrth 2021.
Ar 27 Ebrill, bydd y Gymdeithas yn cynnal digwyddiad ‘Mewn sgwrs’, a fydd yn gweld cyn-dderbynnydd medal Hoggan yr Athro Fonesig Jean Thomas, yr Athro Tavi Murray a’r Athro Haley Gomez yn trafod eu gyrfaoedd gyda’r newyddiadurwraig Elin Rhys.