Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn croesawu 43 o Gymrodyr Newydd
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn llongyfarch y 43 o bobl ddiweddaraf sydd wedi cael eu hethol i’w Chymrodoriaeth, gyda phob un ohonynt yn cynrychioli’r goreuon o fywyd academaidd, diwylliannol a dinesig Cymru.
Mae ein strategaeth yn gosod Cymrodyr wrth wraidd ein gwaith. Maen nhw’n hanfodol o ran cryfhau ein henw da fel llais annibynnol ac awdurdodol sydd yn gallu creu effaith ar gymdeithas Cymru. Bydd eu cysylltiadau, eu profiad a’u harbenigedd yn hanfodol o ran gwneud yn siŵr ein bod ni’n cyrraedd ein nod o sicrhau bod ymchwil yng Nghymru yn cyfrannu at genedl ffyniannus.
Mae bron i draean o’r Cymrodyr newydd sydd yn cael eu hethol gan y Gymrodoriaeth bresennol yn bobl o gefndiroedd leiafrifoedd ethnig, y ganran uchaf erioed o bell ffordd, canlyniad pwysig wrth i’r Gymdeithas barhau i weithio i wella ei hamrywiaeth.
Mae’r Cymrodyr newydd yn dod o ystod eang o gefndiroedd academaidd a phroffesiynol – o gefndiroedd ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a meddygaeth i’r dyniaethau, y celfyddydau a’r gwyddorau cymdeithasol. Mae cryfderau nodedig eleni mewn oncoleg; cyfansoddi cerddoriaeth a pherfformio; a chynaliadwyedd a’r economi werdd.
Yn ogystal, mae dau Gymrodyr newydd, yr Athro Erminia Calabrese a’r Athro Aimee Morgans, wedi ennill medalau Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn ddiweddar, tystiolaeth bellach o sut mae’r medalau’n arwydd o dalent ymchwil eithriadol.
Cymrodyr Anrhydeddus
Mae tri Chymrawd er Anrhydedd yn ymuno â’r Cymrodyr newydd, sydd wedi’u hethol oherwydd eu bod wedi gwneud cyfraniad eithriadol i fyd dysgu ac wedi sefydlu enw da a statws o’r radd flaenaf.
Syr Ian Diamond FRSE FBA FAcSS
Yr Athro Diamond yw Ystadegydd Cenedlaethol y DU, ac mae wedi gweithio mewn nifer o rolau uwch yn y llywodraeth ac ym maes addysg uwch. Cafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru yn 2016 i gynnal adolygiad i gyllid prifysgolion.
Yr Athro Fonesig Ann P. Dowling OM DBE FRS FREng Hon FIMechE ScD
Mae’r Athro Dowling yn beiriannydd mecanyddol ac yn arbenigwr mewn hylosgi ac acwsteg. Hi oedd yr athro benywaidd cyntaf mewn peirianneg ym Mhrifysgol Caergrawnt, y fenyw gyntaf i fod yn bennaeth yr adran honno, a’r fenyw gyntaf i ddod yn Llywydd yr Academi Beirianneg Frenhinol. Mae’r Athro Dowling wedi defnyddio ei llwyfan i hyrwyddo peirianneg fel gyrfa, ac i annog mwy o bobl ifanc, yn enwedig menywod, i fynd i mewn i fyd peirianneg.
Yr Athro William D. Phillips FAPS Hon.MOSA FAAAS MNAS NL
Mae’r Athro Phillips yn ffisegydd Americanaidd o dras Gymreig, a enillodd Wobr Nobel am ffiseg ym 1997 gyda’i gydweithwyr. Mae ei waith ar ddefnyddio laserau i oeri a thrapio atomau fel y gellir eu hastudio’n well wedi arwain at ddatblygiadau technolegol sy’n dibynnu ar fesuriadau manwl iawn, fel clociau atomig a chyfrifiadura cwantwm.
“Mae cyhoeddi ein Cymrodyr newydd yn uchafbwynt ym mlwyddyn y Gymdeithas bob amser,” meddai’r Athro Hywel Thomas, Llywydd y Gymdeithas.
“Mae gwaith y Gymdeithas, y cyfarfodydd bord gron arloesol rydym yn eu rhedeg ac ein Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar i gyd wedi’u hadeiladu ar wybodaeth a chyfraniadau ein Cymrodyr.
“Mae’r Cymrodyr rydyn ni’n eu cyhoeddi heddiw yn ychwanegu at hyn, drwy ddod â’r ystod fwyaf rhyfeddol o sgiliau a mewnwelediad a phrofiad i’r Gymdeithas. Mae gallu defnyddio eu harbenigedd cyfunol i gefnogi’r gwaith a wnawn yn golygu y gallwn gael effaith go iawn fel ffynhonnell o gyngor dibynadwy, sy’n seiliedig ar dystiolaeth.”
Croesawodd Olivia Harrison, Prif Weithredwr y Gymdeithas, y Cymrodyr newydd a dywedodd: “Yn dilyn ymgyrch dan arweiniad Cyngor y Gymdeithas, rydym yn arbennig o falch o weld cynnydd sylweddol mewn Cymrodyr newydd sy’n bobl o leiafrifoedd ethnig.
“Rydym yn benderfynol o barhau i wella amrywiaeth y Gymdeithas. Rydym eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni’n Gymdeithas groesawgar a chynhwysol, lle rydym yn annog Cymrodyr o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i gael llais yn ein gwaith.
“Mae gweithgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gymdeithas yn cynnwys ystod eang o Gymrodyr, gan gynnwys pobl sy’n arbenigwyr blaenllaw y byd yn y maes hwn. Mae’n helpu i lunio ein camau nesaf uchelgeisiol, gan gynnwys lansio ein cynllun gweithredu Cynhwysiant, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn fuan iawn.”
Rydym wedi ymrwymo i gasglu a rhannu data bob blwyddyn am ddemograffig ein Cymrodyr newydd, rhan o’n hymdrechion i fod yn dryloyw ynghylch y camau rydym yn eu cymryd tuag at gyflawni ein huchelgeisiau ym maes Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Eleni, fe wnaethom ganolbwyntio ar annog enwebiadau ar gyfer pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, a arweiniodd at gynnydd o 11% yn 2023 i 30% o’n Cymrodyr yn 2024. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, fe wnaethom ganolbwyntio ar enwebu menywod i’r Gymrodoriaeth. Y llynedd, roedd ychydig dros 50% o Gymrodyr newydd yn fenywod; mae’r ffigur hwn bron yn 35% eleni. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae hyn yn golygu bod 43% o Gymrodyr newydd y Gymdeithas wedi bod yn fenywod.