Y Gymdeithas Ddysgedig yn cydweithio gyda’r Academi Brydeinig ar Brosiect Plentyndod
Ar 25 Mehefin 2019 cyd-gynhaliom ni Gyfarfod Bwrdd Crwn gyda’r Academi Brydeinig ym Mhrifysgol De Cymru.
Cynhaliwyd y gweithdy i adolygu dogfen polisi ddrafft sydd wedi’i llunio fel rhan o Brosiect Plentyndod yr Academi Brydeinig, sy’n ceisio adolygu’r dirwedd polisi ar draws y DU yn nhermau sut mae polisïau llywodraeth y DU a datganoledig yn effeithio ar blant.
Daeth academyddion o nifer o brifysgolion, ymarferwyr, cynrychiolwyr cyrff cymdeithas sifil a swyddogion o amrywiol adrannau’r llywodraeth at ei gilydd i drafod rôl newidiol y wladwriaeth ym mywydau plant.
Roedd Martin Pollard, Prif Weithredwr y Gymdeithas, yn y digwyddiad. Roedd tri Chymrawd hefyd yn bresennol, yr Athro Syr Mansel Aylward CB MD DSC FFPM FFOM FFPH FRCP FLSW, yr Athro Merideth Gattis FLSW a’r Cymrawd newydd yr Athro Ann John FLSW. Roedd Dr Rhiannon Evans, enillydd medal gyntaf Dillwyn y Gymdeithas yn y Gwyddorau Cymdeithasol yn 2017 hefyd yn bresennol.
Bydd adroddiad ar y digwyddiad yn dilyn yn fuan.