Cyhoeddir yr Athro Hannah Fry yn Gymrawd er Anrhydedd Cymdeithas Ddysgedig Cymru
Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai’r Athro Hannah Fry HonFIET HonFREng HonFLSW yw ein Cymrawd er Anrhydedd newydd.
Mae Hannah Fry yn Fathemategydd, yn Athro mewn Mathemateg Dinasoedd yng Nghanolfan Dadansoddi Gofodol Uwch, Coleg Prifysgol Llundain, ac yn awdur adnabyddus, yn gyflwynydd ar y radio a’r teledu, ac yn siaradwr cyhoeddus.
Mae hi’n ffigwr amlwg ym maes ymgysylltu â’r cyhoedd mewn mathemateg, ac yn ennyn brwdfrydedd ac yn ysbrydoli ystod eang o gynulleidfaoedd, ac mae hi wedi derbyn nifer o anrhydeddau. Mae ei llwyddiannau nodedig yn amrywio o gyflwyno Darlithoedd Nadolig y Sefydliad Brenhinol 2019, ennill Medal fawreddog Christopher Zeeman gan y London Mathematical Society and the Institute of Mathematics and its Applications yn 2018, i dderbyn Gwobr Asimov 2020.
Etholwyd yr Athro Fry yn Gymrawd er Anrhydedd gan yr Academi Beirianneg Frenhinol yn 2022. Mae hi’n fodel rôl ragorol, sy’n ysbrydoli ac yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol a’r cyhoedd yn ehangach ar bŵer a harddwch mathemateg.