Cydnabod Pum Cymrawd yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin
Llongyfarchiadau i’r Cymrodorion canlynol a gafodd eu cydnabod yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin
Yr Athro Karen Holford DBE, (Prif Weithredwr ac Is-ganghellor, Prifysgol Cranfield). Am wasanaethau i Beirianneg.
Yr Athro Elizabeth Treasure, CBE (Yn ddiweddar Is-ganghellor, Prifysgol Aberystwyth). Am wasanaethau i Addysg Uwch ac i’r gymuned yn Aberystwyth a Cheredigion.
Yr Athro Emmanuel Ogbonna, CBE (Athro Rheoli a Threfnu, Prifysgol Caerdydd). Am wasanaethau i Bobl o Gefndiroedd Ethnig Lleiafrifol a Gwrth-hiliaeth).
Professor Geoffrey Gadd, OBE (Cadair Boyd Baxter mewn Bioleg, Prifysgol Dundee). Am wasanaethau i Fycoleg a Microbioleg Amgylcheddol.
Yr Athro David Lloyd, MBE Am wasanaethau i Ficrobioleg, De Morgannwg.